2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 18 Tachwedd 2020.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.
Diolch, Lywydd. Weinidog, adroddwyd bod chwarter y rhai sy'n cysgu ar y stryd a gafodd le i aros yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf nôl yn cysgu ar y stryd. Pam fod hynny wedi digwydd?
Diolch, Delyth. Mae arnaf ofn fod yr adroddiad hwnnw ar y BBC wedi tangyfrif maint yr ymdrech sydd wedi digwydd ledled Cymru. Nid wyf yn gwybod a wnaethoch chi glywed rhaglen radio ychydig yn ddiweddarach ar y BBC, lle cefais gyfle i egluro'r sefyllfa. Cafodd ffigur—hapwiriad o nifer y bobl a oedd yn cysgu ar y stryd ym mis Mawrth, sef 407—ei gymryd fel nifer y bobl a oedd wedi cael cymorth drwy'r pandemig. Mewn hapwiriad arall ym mis Awst roedd 101 o bobl wedi mynd yn ôl ar y stryd, ac mae un person yn ormod, felly dof yn ôl at hynny mewn munud. Ond mewn gwirionedd, yn ôl y cyfrif diwethaf, mae 3,533 o bobl wedi cael cymorth, felly mae'r raddfa ychydig yn wahanol i adroddiad y BBC. Felly nid yw'n agos i fod yn chwarter, er y byddwn yn dweud bod unrhyw nifer yn broblem wirioneddol.
Hoffwn allu egluro i bobl Cymru beth yw maint gwirioneddol yr hyn sydd wedi'i gyflawni yng Nghymru yn ystod y pandemig, gan bawb sydd wedi bod yn gweithio yn y sector hwn. Roedd gennym lawer mwy o bobl yn cysgu ar y stryd nag yr oeddem wedi meddwl yn wreiddiol. Roeddem bob amser yn gwybod bod yr hapwiriad yn debygol o fod yn rhy isel. Roeddem bob amser yn gwybod na fyddai'n cynnwys pobl ifanc na menywod yn arbennig o dda, er enghraifft, ac fel y gwyddoch, roedd bob amser yn ffordd fras o'i wneud dros ddwy noson benodol ar draws y DU. Felly roeddem bob amser yn gwybod y byddai'n amcangyfrif rhy isel. Credaf ein bod wedi synnu braidd pa mor isel ydoedd mewn gwirionedd. A hefyd wrth gwrs, rydym wedi cynnwys yr holl bobl sydd, er nad ydynt ar y strydoedd mewn gwirionedd, yn eithaf agos at hynny—felly yr holl bobl oedd yn cysgu ar soffas, neu'n cysgu mewn ceir neu mewn mannau anaddas iawn eraill. Felly, nid yw'n ymwneud yn unig â'r pen eithafol o gysgu ar y stryd, mae'n ymwneud â'r holl bobl sydd mewn llety anniogel, anaddas lle na ellid eu cadw'n ddiogel drwy'r pandemig. Felly, rwy'n talu teyrnged wirioneddol i'r holl sefydliadau trydydd sector ac awdurdodau lleol, swyddogion y Llywodraeth—pawb—sydd wedi gweithio'n galed i helpu cynifer o bobl ag sy'n bosibl.
Pan gafodd y cyfyngiadau symud gwreiddiol eu llacio yn yr haf, gwyddom fod pobl a oedd wedi profi digartrefedd yn flaenorol yn teimlo'r rhyddid a deimlai cryn dipyn ohonom o gael mynd allan i'r awyr iach ac yn y blaen, ac mae'r rhain yn bobl sydd ag anghenion cymorth cymhleth. Ac felly, roeddem yn gwybod fod rhai pobl nad oeddent wedi bod mewn gwasanaethau cymorth yn ddigon hir eto, ac nad oeddent mewn llety a oedd yn ddelfrydol ar eu cyfer efallai, yn cael eu denu'n ôl at y strydoedd. O reidrwydd, bu'n rhaid inni gartrefu pobl â phroblemau tebyg mewn ardaloedd penodol, a gall hynny fod yn wrthgynhyrchiol. Felly, gwyddom fod y problemau hynny'n bodoli. Maent yn parhau i fodoli. Nid wyf erioed wedi celu'r ffaith nad yw hwn yn ateb i'r broblem hirdymor.
Fodd bynnag, rydym wedi llwyddo i gael allgymorth pendant i bob person yng Nghymru sy'n cysgu ar y stryd, gan gynnwys y rhai a oedd wedi syrthio allan o'r gwasanaethau dros dro dros yr haf. Bydd yn ddiddorol iawn gweld beth fydd y cyfrif nesaf, o ran pwy sy'n derbyn gwasanaethau a'r rhai nad ydynt. Yn y mis hwnnw, er enghraifft, ym mis Awst, pan gafwyd y cyfrif o 101, cawsom hefyd bron i 1,000 o bobl ddigartref o'r newydd, y canfuwyd llety i bob un ohonynt, a rhoddwyd cymorth hefyd—ni allaf gofio nawr—i symud cannoedd lawer o bobl i lety parhaol allan o'r llety dros dro. Gallaf ddarparu'r ffigur hwnnw. Rwyf wedi'i anghofio am nawr ond mae'n 500/600 o bobl.
Felly, mae'r nifer sy'n mynd drwy'r system yn bwysig iawn, a Delyth, fe fyddwch yn gwybod ein bod wedi trafod droeon nad yw hwn yn rhyw fath o ddilyniant llinellol. Mae cam 1 i bobl sy'n ddigartref ac mae angen inni ddatrys hynny iddynt—sicrwydd dros dro a sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn y blaen. Ac yna cam 2, sef rhoi cartref diogel parhaol i'r bobl hynny—ailgartrefu'n gyflym—gyda'r holl fecanweithiau cymorth o'u cwmpas. Felly, nid yw hyn yn ymwneud â waliau'n unig. Mae hyn yn ymwneud â chymorth iechyd meddwl, cymorth camddefnyddio sylweddau, cymorth pan fo perthynas yn chwalu, dianc rhag trais domestig—y llu o broblemau sy'n cael eu gwaethygu gan unrhyw gyfnod o amser y mae pobl yn ei dreulio allan o lety parhaol, wrth gwrs.
Felly, rwy'n falch iawn o gael y cyfle i egluro'r sefyllfa. Rydym wedi cwyno wrth y BBC eu bod yn tangyfrif y broblem drwy wneud hynny ac mewn gwirionedd yn amharchu'r bobl sydd yn y system a'r bobl ddigartref eu hunain.
Wel, diolch am hynny, Weinidog. Hoffwn ategu eich teyrnged i'r gweithwyr yn y trydydd sector ac awdurdodau lleol am yr holl waith y maent wedi'i wneud ar hyn. Ac rwy'n falch eich bod wedi egluro'r sefyllfa. Yn amlwg, gallwch weld o ble y cawsom y ffigurau hynny. Ond rwy'n cytuno â'r pwynt a wnaethoch hefyd ei bod yn amlwg fod un person sy'n dychwelyd i fyw ar y stryd yn un person yn ormod.
Gyda'r hyn rydych newydd ei ddweud, Weinidog, o ran yr anghenion hynod gymhleth a fydd gan nifer o'r bobl rydym yn sôn amdanynt, a'r cymorth sylweddol sydd ei angen arnynt, yn amlwg byddwn yn cytuno â hynny hefyd, ond mae hynny'n gwneud i mi gwestiynu pam na chawsant y cymorth hwnnw pan oeddent yn cael eu cartrefu. Nawr, rwy'n derbyn, wrth gwrs, yr hyn rydych wedi bod yn ei ddweud am y sefyllfa hynod gymhleth rydym wedi bod yn ei hwynebu, ac ni fyddai'r un ohonom yn bychanu hynny. Ond mae eich Llywodraeth i fod wedi ymrwymo i fodel tai yn gyntaf, felly dylai'r cymorth hwnnw fod wedi cael ei ystyried.
Nawr, wrth edrych ar rai o'r achosion, mae'n amlwg nad oes lefel o ddealltwriaeth wedi bod o fewn rhai awdurdodau lleol nad yw pobl ddigartref yn grŵp unffurf, fel rydych newydd fod yn ei ddweud, ac na fydd ateb i un person o reidrwydd yn gweithio i un arall. Weinidog, rydych wedi cyfeirio at rywfaint o hyn yn eich ateb cychwynnol. Rydym wedi cael straeon am bobl sydd wedi cael eu cartrefu gyda'i gilydd, gan gynnwys dioddefwyr camdriniaeth sydd wedi cael eu cartrefu gyda phobl sydd â hanesion treisgar—dulliau un ateb i bawb yn aml nad ydynt yn ystyried anghenion unigolion. Felly, a ydych yn derbyn bod angen llawer mwy o waith i sicrhau bod staff awdurdodau lleol yn cael gwell dealltwriaeth o ddigartrefedd, a'u bod yn cael hyfforddiant ar sut i ymdrin â phobl sydd wedi profi trawma, a chydnabyddiaeth bod darparu amrywiaeth o fathau o lety, yn hytrach nag un ateb i bawb, yn hanfodol i ddatrys y broblem?
[Anghlywadwy.]—Delyth. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi ar bopeth rydych newydd ei ddweud. Mae hwn yn newid diwylliant enfawr i lawer o'r awdurdodau lleol, ac rydym i gyd yn gwybod, o'n hymateb ein hunain i'r pandemig, ei fod, ar y dechrau, yn frawychus ac yn peri pryder gwirioneddol, ond roedd hefyd ychydig yn gyffrous, roedd yn newydd ac yn wahanol, nid ydym wedi'i wneud o'r blaen, ac roeddem i gyd yn meddwl y gallai fod yn beth byr i'r pwynt y gallem ei wneud i reoli'r feirws ac yn y blaen. A'r hyn sydd wedi digwydd gyda'r holl wasanaethau, wrth gwrs, yw ei bod yn amlwg iawn nad sbrint yw hwn ond marathon. Ac felly, mae pobl wedi blino. Maent wedi gweithio'n galed iawn drwy hyn i gyd. Prin yw'r adnoddau sydd ganddynt o hyd. Er ein bod wedi neilltuo £50 miliwn yn fwy ar ei gyfer, mae'n dal i fod yn adnodd cyfyngedig i'r bobl a welwn. Mae gennym hefyd ffrwd ddiddiwedd o bobl sy'n profi'r un broblem. A gwyddom fod un o'r problemau mawr mewn perthynas â chyfnodau atal pellach a'n pryder parhaus am y feirws, a'r holl bethau tebyg i ddirwasgiad sy'n digwydd yn yr economi, yn peri i berthnasoedd chwalu, a bod hynny'n arwain at ddigartrefedd. Felly, mae'n rhaid i ni gael rheolaeth ar y pandemig, a'i ganlyniadau economaidd, er mwyn gallu dechrau meddwl am gau'r tap, fel petai. Ac mae'n ddrwg gennyf siarad am bobl fel pe baent yn llifogydd oherwydd mae pob un ohonynt yn drasiedi, ond mae gennym nifer fawr o bobl sy'n dal i fod yn y mathau hynny o amgylchiadau.
Rydym hefyd wedi cryfhau'r math mwyaf o fecanwaith cymorth ar draws gwasanaethau iechyd meddwl, gwasanaethau camddefnyddio sylweddau a gwasanaethau cymorth ar gyfer perthnasoedd sy'n chwalu. Rydym wedi rhoi symiau enfawr o arian i'r gwasanaethau cynghori hefyd, i geisio cael pobl i wneud y mwyaf o'u hincwm, oherwydd pan fyddant yn cael lle yn y tai hyn, mae angen iddynt allu cael y credyd cynhwysol sydd ar gael—ac nid yw hynny bob amser mor syml â hynny—ond hefyd ffrwd incwm er mwyn gallu cynnal eu tai a hynny i gyd. Mae'n gymhleth iawn. Wedyn, wrth gwrs, o reidrwydd, oherwydd bod gennym niferoedd mor fawr, rydym yn rhoi pobl mewn llety anaddas dros dro. Rwy'n derbyn hynny'n llwyr. Mae'r awdurdodau lleol yn gwneud eu gorau glas i sicrhau nad yw hynny'n digwydd. Nid yw pawb yn adrodd eu stori'n llawn pan fyddant yn dod i gysylltiad â gwasanaethau am y tro cyntaf. Mae llawer o bobl yn amheus, am resymau dealladwy iawn, o bobl swyddogol sy'n ceisio helpu ac yn y blaen. Ac mae pob un o'r methiannau hynny'n broblem fawr iawn.
Fodd bynnag, ceir straeon calonogol am lwyddiant hefyd. Felly, mae llawer o awdurdodau sydd â'r problemau hynny hefyd wedi cael pobl yn dod i gysylltiad â gwasanaethau am y tro cyntaf ac wedi gweld llwyddiant ysgubol. Maent yn digwydd bod wedi cael y cwnselydd iawn, y cymorth cywir, ac maent wedi symud ymlaen i lety parhaol. Felly, nid wyf eisiau i'r cyfan fod—. Nid wyf yn tynnu oddi ar y rhai nad ydynt wedi cael beth y maent ei eisiau'n iawn, ac mae angen i ni gryfhau ein hymdrechion i wneud hynny, ond credaf hefyd ei bod yn bwysig annog yr awdurdodau, oherwydd maent hwy hefyd wedi cael llwyddiannau. Felly, mae angen inni annog y gwaith llwyddiannus a'u hannog i beidio â pharhau i wneud y gwaith aflwyddiannus. Rydym wedi bod yn cynnal llawer o weminarau ar gyfer awdurdodau. Mae hwn, fel y dywedais, yn newid diwylliant enfawr o ble roedd gan bobl ryw fath o rôl porthgadw o'r blaen. Felly, rydym wedi'i gwneud yn glir iawn na fyddwn yn mynd yn ôl, a bod angen gwreiddio'r newid diwylliant hwnnw. Ond o ddifrif, nid oedd unrhyw ffordd y byddai wedi gwreiddio mewn pedwar mis yn unig yn wyneb pandemig. Felly, rwyf wedi dweud yn glir nad ydym wedi datrys y broblem; rydym wedi cymryd y cam cyntaf tuag at ddatrys y broblem. Bydd angen i bob un ohonom gydweithio i sicrhau ein bod yn gallu parhau ar hyd y llwybr hwnnw.
Iawn. Diolch ichi am hynny, Weinidog. O ran y newid diwylliant sydd ei angen, yn amlwg, nid staff awdurdodau lleol, sy'n cynllunio ac yn comisiynu gwasanaethau, yn unig sydd angen y ddealltwriaeth honno a'r tosturi rydych newydd gyfeirio ato. Yn ddiweddar, mae—. Rydym wedi gweld sylwadau anffodus gan gynghorydd awdurdod lleol yng ngogledd Cymru sydd fel pe baent yn awgrymu nad oedd pobl sydd â 'ffyrdd caotig o fyw', fel y dywedodd y cynghorydd hwnnw, yn haeddu gwasanaethau 'drud', a defnyddio geiriau'r cynghorydd hwnnw unwaith eto. Mae hyn, wrth gwrs, er gwaethaf y ffaith bod atal a datrys digartrefedd bob amser yn rhatach na gadael iddo ddigwydd, ac mae'n dal i fod yn anffodus nad yw pobl sy'n gwneud y penderfyniadau hyn yn deall hynny.
Felly, hoffwn ofyn i chi yn olaf, Weinidog: pa gamau y gwnewch chi eu cymryd i fynd i'r afael â'r rhagfarn ymhlith cynghorwyr awdurdodau lleol? Tosturi sydd ei angen, onid e, nid creu dihirod o'r bobl hyn.
Rwy'n cytuno'n llwyr, ac mae'r naratif rydym wedi cael trafodaethau yn ei gylch droeon yn y Siambr hon fod rhai pobl rywsut yn haeddu bod yn dlawd, a rhai pobl nad ydynt yn haeddu bod yn dlawd, yn falltod maleisus ar ein cymdeithas, ac mae angen inni weithio gyda'n gilydd i sicrhau ein bod yn cael gwared arno, oherwydd nid oes neb sydd yn y sefyllfa honno wedi bod yno o'r cychwyn. Ni chawsant eu geni i'r sefyllfa honno. Maent yno oherwydd methiant yn y system yn rhywle ar hyd y ffordd. Felly, mae'n rhaid inni gyfleu'r neges honno, ac yn anffodus, rydym yn byw mewn cymdeithas lle mae gennym gryn dipyn o gyfryngau yn porthi'r syniad o bobl nad ydynt yn haeddu bod yn dlawd. Felly, hoffwn fanteisio ar y cyfle i gofnodi unwaith eto fod hynny'n falltod ar unrhyw gymdeithas wâr ac mae angen inni fod yn siŵr nad ydym, mewn unrhyw ffordd, yn hyrwyddo'r naratif hwnnw.
Rydym wedi dweud yn glir iawn fod pob bod dynol sy'n dod i sylw awdurdod lleol sydd angen tŷ, yn cael rhywbeth: cymorth ar unwaith. Maent yn cael cymorth ar unwaith; maent yn cael cymorth parhaol os yw hynny'n bosibl o gwbl, ac os nad yw'n bosibl, cânt gymorth dros dro wrth i ni ddod o hyd i ateb parhaol ar eu cyfer. Ac fel y dywedais, mae honno'n ffordd hir. Mae'n hawdd i mi ei ddweud wrth sefyll yma; ond mae'n llawer anos ei wneud ar lawr gwlad. Ond rydym wedi rhoi llawer o adnoddau tuag at ei wneud hyd yma. Mae angen inni barhau i wneud hynny.
A hoffwn gofnodi, mewn gwirionedd, gan ein bod i gyd yn eistedd yma, fy mod wedi bod yn dweud wrth yr elusennau digartrefedd sy'n gweithio yn y gofod hwn, wrth inni nesáu at etholiadau'r Senedd, mai'r gobaith gorau i bobl yn yr amgylchiadau hyn yw sicrhau bod yr holl bleidiau gwleidyddol—y pleidiau gwleidyddol mawr, beth bynnag, yng Nghymru—yn sicrhau bod hyn yn eu maniffestos, oherwydd gallwn fod yn siŵr wedyn fod modd inni fwrw ymlaen â hyn gyda'n gilydd. Nid wyf yn credu bod unrhyw ddadl wirioneddol na ddylai hyn ddigwydd ymhlith y pleidiau gwleidyddol mawr yng Nghymru. Ac felly, mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn bwrw ymlaen â hyn gyda'n gilydd.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.
Diolch, Lywydd. Rwy'n cytuno—nid oes dadl wleidyddol ymysg y pleidiau mawr ynglŷn â'r mater hwn.
Mae adroddiad diweddar yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau, 'Building Stronger Welsh Communities: opportunities and barriers to community action in Wales' yn ymwneud â harneisio cryfderau a sgiliau pobl leol fel y gallant adeiladu'r seilwaith cymdeithasol a llunio'r gwasanaethau y maent eu heisiau ac y maent eu hangen yn eu hardal. Ar ôl hwyluso sgwrs genedlaethol gyda thros 250 o bobl a fynychodd 20 o ddigwyddiadau a gynhaliwyd ar hyd a lled Cymru i ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio ar eu hardal leol—[Anghlywadwy.]—nad yw geiriau teilwng yn cael eu hategu gan gamau gweithredu, fod cyrff cyhoeddus yn gwneud i bobl yn hytrach na chyda phobl—[Anghlywadwy.]—cymunedau, ac mae diffyg ymddiriedaeth sylfaenol y cyhoedd, ynghyd ag osgoi mentro, gweithio mewn seilos, rhagfarn broffesiynol a diffyg cymhelliad i staff yn rhwystrau sylweddol i fwy o weithredu cymunedol. Ac yn sicr mae fy ngwaith achos yn cefnogi hynny'n gryf. Sut felly y byddwch yn ymgysylltu â hwy i gynllunio, darparu a monitro ffordd well o gyflawni gwaith llywodraeth leol ledled Cymru?
Diolch, Mark. Nid wyf yn credu fy mod wedi clywed y cwestiwn hwnnw i gyd, ond rwy'n meddwl fy mod wedi cael byrdwn yr hyn a ddywedoch chi, felly fe wnaf fy ngorau i'w ateb. Felly, yr hyn rydych yn sôn amdano yw newid diwylliant i'r hyn rydym yn ei alw'n 'creu lleoedd'. Felly, mae gennym nifer o sefydliadau, gan gynnwys yr un rydych newydd ei grybwyll, sydd wedi bod yn gweithio gyda ni i sicrhau ein bod yn cynnwys cymunedau lleol yn y broses o ystyried sut y dylai eu lleoedd edrych—sut y dylai eu cymunedau edrych a sut y dylai'r cyfleusterau o'u cwmpas edrych. Ac rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn ar sail sybsidiaredd, i ddefnyddio'r jargon, i leihau'r gwaith o wneud penderfyniadau i'r man isaf posibl lle gall pobl wneud y penderfyniadau hynny. Unwaith eto, rydym wedi cael y drafodaeth hon droeon yn y Siambr hon, lle mae angen i rai gwasanaethau fod yn gyffredinol—felly, mae angen i chi gael yr un profiad o rai gwasanaethau ni waeth ble rydych yn byw. Ond nid yw hynny'n wir gyda'ch lle chi neu eich tref neu eich pentref lleol chi nac unrhyw beth arall, oherwydd rydym eisiau i'r rheini fod mor unigryw a lleol ag y gallwn eu gwneud. Felly, mae arnom angen i leisiau pobl leol fod yn uchel ac yn glir yn y cymunedau hynny.
Felly, mae holl fyrdwn 'Polisi Cynllunio Cymru', y fframwaith datblygu cenedlaethol a'r papurau adfer y mae fy nghyd-Aelodau, y Cwnsler Cyffredinol a Ken Skates, Gweinidog yr economi, wedi bod yn gweithio arnynt ar draws holl ranbarthau Cymru, wedi'i gynllunio i sicrhau bod y llais uchel hwnnw gan bobl leol. Felly, unwaith eto, Mark, os oes gennych enghreifftiau lle nad yw hynny'n gweithio mor dda ag y gallai, ac mae'n newid diwylliant mawr, ac os hoffech dynnu fy sylw atynt ar wahân, rwy'n hapus iawn i edrych i weld beth y gallwn ei wneud mewn achosion penodol i annog y math hwnnw o gydweithrediad ar lawr gwlad.
Cyn i chi ofyn eich cwestiwn atodol, Mark Isherwood, dylech wybod bod eich cysylltiad band eang yn eithaf ansefydlog. Rydych wedi bod yn torri allan gryn dipyn. Felly, rhown gynnig ar eich cwestiwn nesaf, ond os nad yw'n ddealladwy yn y Siambr, efallai y bydd rhaid inni adael eich cwestiynau ar gyfer yr wythnos hon. Ond rhowch gynnig arall arni ac fe gawn weld ble y cyrhaeddwn ni y tro hwn.
Iawn, wel, rwy'n gobeithio y gallwch glywed yn well ac rwy'n gobeithio bod yr ateb hwnnw'n golygu y byddwch yn eu cynnwys hwy a chymunedau nid yn unig yn y broses gynllunio, ond yn y gwaith o gyflawni a monitro, ac fel y gwyddoch, rwyf wedi cyfeirio nifer o achosion atoch yn ddiweddar, ond roeddech yn teimlo na allai Llywodraeth Cymru ymyrryd yn briodol.
Fel y clywsom, adroddodd BBC Wales yr wythnos diwethaf fod bron i chwarter y rhai a oedd yn cysgu ar y stryd ac a gafodd dai dros dro yn ystod y cyfyngiadau symud COVID cyntaf yng Nghymru bellach yn cysgu ar y stryd eto. Do, dywedodd fod dros 3,566 o bobl mewn llety dros dro, ond roedd 101 yn cysgu ar y stryd ar y dyddiadau hynny ym mis Awst, o'i gymharu â mis Ebrill pan gafwyd hyd i leoliadau dros dro ar gyfer pob un o'r 407 o bobl y gwyddem eu bod yn cysgu ar y stryd yng Nghymru. Dywedodd yr elusen Shelter Cymru, sy'n gweithio gydag unigolion go iawn yr effeithiwyd arnynt, ei bod yn sefyllfa siomedig dros ben, gan ychwanegu mai'r pwysau ar lety dros dro sy'n arwain rhai cynghorau i fabwysiadu polisïau llym iawn. Dywedodd elusen The Wallich fod llawer o gynghorau unwaith eto'n troi pobl ddigartref i ffwrdd oddi wrth gymorth oherwydd diffyg lle, gan ychwanegu,
Ni wnaethom ddatrys tlodi, ni wnaethom roi diwedd ar ddigartrefedd, nid ydym wedi datrys camddefnyddio sylweddau nac argyfyngau iechyd meddwl.
Ac mae'r elusen Crisis yn galw am gynllun cenedlaethol trawslywodraethol i roi diwedd ar ddigartrefedd mewn degawd. Sut y byddwch chi, felly, yn ymgysylltu â'r sector i gynllunio, cyflawni a monitro ffordd well a mwy cynaliadwy o fynd i'r afael â hyn?
Rwy'n credu fy mod wedi ymdrin â rhywfaint o hyn yn eithaf cynhwysfawr yn fy ateb i Delyth Jewell, ond fe ychwanegaf, er mwyn bod yn drylwyr, ein bod, wrth gwrs, yn dilyn y cynllun a nodwyd ar ein rhan gan y grŵp gweithredu ar gyfer tai, sy'n cynnwys Shelter, The Wallich a Crisis fel cynghorwyr i Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut rydym yn strwythuro ein polisïau wrth symud ymlaen. A'r hyn a wnaeth y pandemig, yn amlwg, oedd cyflymu ein hymateb i'r argymhellion hynny. Felly, rydym wedi dilyn argymhellion y grŵp gweithredu ar gyfer tai yn llwyr, gan gynnwys yr holl sefydliadau a nodwyd gennych yno, Mark, ac rydym wedi bod yn gweithio gyda hwy, ochr yn ochr â hwy, drwy'r pandemig.
Credaf fod y ddogfen Crisis y sonioch chi amdani mewn gwirionedd yn sôn am Lywodraethau'r DU yn gyffredinol, nid Cymru'n unig, ac rydym wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda'r rheini o ran sut rydym yn strwythuro'r ymateb i'r pandemig a'n hymateb i ddigartrefedd wrth symud ymlaen.
Ewch chi, Mark.
Gobeithio bod hynny'n golygu—
Ewch chi.
A ydych chi'n gallu clywed?
Gallwn. Ewch chi.
Diolch. Wel, gobeithio bod hynny'n golygu y byddwch hefyd yn ymgysylltu â hwy ar gyflawni a monitro. Crisis wnaeth gyhoeddi'r adroddiad y cyfeirioch chi ato, ond maent hefyd wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol i Gymru. Maent yn amcangyfrif, ar unrhyw noson benodol, fod tua 5,200 o aelwydydd yng Nghymru yn profi rhyw fath o ddigartrefedd yn 2017, a bod yr angen am dai ar gyfer pobl â phrofiad o ddigartrefedd a phobl ar incwm isel yn 4,000 o gartrefi cymdeithasol newydd bob blwyddyn. Dywedant fod pobl sydd â phrofiad o ddigartrefedd yn gallu ei chael yn anodd cael gafael ar gartref parhaol a'i gynnal, yn y sector tai preifat a'r sector rhentu cymdeithasol fel ei gilydd. Maent yn dweud bod ymateb cam 2 Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio ar arloesi, adeiladu ac ailfodelu i drawsnewid gwasanaethau digartrefedd yn fodel ailgartrefu cyflym gyda chymorth ariannol o £15 miliwn. Ond dywedasant y bydd trawsnewid yn galw am gynllunio a newid hirdymor. Felly, roeddent yn gofyn pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i sicrhau bod pobl sydd â phrofiad o ddigartrefedd yn gallu cael mynediad at gartref diogel yn ogystal â'r cymorth sydd ei angen arnynt i gynnal cartref, ac i sicrhau cyllid ychwanegol a hirdymor ar gyfer gwasanaethau digartrefedd er mwyn trosglwyddo i ailgartrefu cyflym a bodloni'r galw. Gofynasant i mi ofyn y cwestiynau hynny i chi ddoe.
Diolch, Mark. Yn amlwg, rwy'n ymwybodol iawn o'r adroddiad gan Crisis oherwydd cadeirydd y grŵp gweithredu ar gyfer tai, mewn gwirionedd, oedd Jon Sparkes, cadeirydd Crisis. Felly, mae wedi bod yn gweithio gyda ni drwy hyn i gyd, i gynllunio ein hymateb i ddigartrefedd yng Nghymru yn y lle cyntaf—oherwydd rhoddwyd hyn ar waith ymhell cyn y pandemig—ac yna, wrth gwrs, ein hymateb i'r pandemig ac yn wir, ein hymateb wrth symud ymlaen o ran newid ein polisi'n llwyr fel bod gennym y dull ailgartrefu cyflym hwnnw ar waith yng Nghymru. Dyna'n union a nodwyd yn adroddiad y grŵp gweithredu ar gyfer tai, ac mae hynny bellach yn cael ei adlewyrchu yn nogfennau Crisis ledled y DU, ac mewn gwirionedd, os ydych yn ei ddarllen o glawr i glawr, mae'n nodi Cymru fel enghraifft o'r hyn y gellir ei wneud pan fydd pawb ohonom yn rhoi ein meddyliau ar rywbeth ac yn gweithio gyda'n gilydd. Felly, yn sicr rydym yn gweithio gyda hwy wrth symud ymlaen, ac fel y dywedais wrth Delyth, yn bendant nid ydym wedi datrys y broblem hon. Yr hyn rydym wedi'i wneud yw cymryd y cam mawr cyntaf ar y llwybr tuag at ei ddatrys ac fel y dywedais hefyd, mae consensws ar draws y Siambr y dylem barhau i wneud hynny.