Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 18 Tachwedd 2020.
Diolch, Siân. Fel y gwyddoch, mae'n broblem gymhleth iawn ac rydym yn cydymdeimlo'n fawr, ond nid oes ateb syml. Ni allwn gymryd pwerau deddfu sylfaenol rhwng nawr a'r etholiad am nad oes gennym ddigon o amser Senedd ar ôl i wneud hynny. Felly, nid yw'n ffisegol bosibl inni wneud hynny mewn gwirionedd. Mae gennym nifer o bethau roeddem yn awyddus iawn i'w cyflawni yn ystod tymor y Senedd hon ac rydym wedi gorfod gadael y pethau hynny i gyd, ac rydym i gyd yn gresynu at hynny. Felly, nid oes unrhyw bwynt i mi geisio esgus fel arall. Nid oes gobaith cael deddfwriaeth sylfaenol newydd drwodd ar y pwynt hwn, nac ar unrhyw bwynt arall, mewn gwirionedd, ar wahân i'r rhai sydd eisoes wedi dechrau ar eu taith drwy'r Senedd.
Fel y gwyddoch, rydym eisoes wedi gwneud nifer fawr o bethau yng Nghymru, gan gynnwys taliadau trafodion tir gwahaniaethol a chyfundrefnau gwahaniaethol ar gyfer y dreth gyngor, ac yn y blaen. Yn y grŵp trawsbleidiol a gyfarfu â ni, fe fyddwch yn gwybod ein bod yn edrych eto ar y materion data i weld a allwn nodi mathau penodol o dai y gallem weithredu arnynt. Mae'n llawer mwy cymhleth nag y mae'n ymddangos gyntaf pan fyddwch yn ceisio nodi pa set benodol o dai rydych yn sôn amdanynt mewn gwirionedd, fel y gwyddoch. Ac felly, rwy'n edrych ymlaen at y cyfarfod gyda'r Prif Weinidog a'r grŵp ymgyrchu, ond mae'n llawer mwy cymhleth na newid y gyfraith gynllunio yn unig, er enghraifft. Felly, byddai angen ystyried nifer o faterion, fel y trafodasom yn helaeth yn y grŵp y tro diwethaf.