Ail Gartrefi

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 18 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:54, 18 Tachwedd 2020

Dydw i ddim am ymddiheuro am godi'r pwnc yma eto. Dwi'n ddiolchgar ichi am y trafod diweddar sydd wedi bod rhwng ein plaid ni a'ch Llywodraeth chi, a dwi'n edrych ymlaen at ymuno mewn cyfarfod rhithiol rhwng y Prif Weinidog a chynrychiolwyr yr ymgyrch Hawl i Fyw Adra o Ben Llŷn yr wythnos nesaf. Ond un peth yw cynnal cyfarfodydd ac asesiadau, a gwneud synau o gydymdeimlad a dweud eich bod yn deall y broblem; peth arall ydy gweithredu er mwyn atal y cynnydd mewn ail gartrefi mewn cynifer o'n broydd ni yn y gorllewin. Mae Plaid Cymru wedi amlinellu rhai camau y gellid eu cymryd yn syth. Ydy'ch Llywodraeth chi yn bwriadu cymryd unrhyw gamau penodol i newid y gyfraith cynllunio neu gyllidol rhwng rŵan ac ethol Senedd newydd ym mis Mai?