Marchnadoedd Tai Gwledig

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 18 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 3:06, 18 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Andrew. Mae hwnnw'n un o'r pethau rydym yn edrych arnynt o ran y data sydd gennym. Unwaith eto, mae'n un o'r pethau lle mae gofyniad amaethyddol ar annedd, er enghraifft, neu ofyniad cysylltiad lleol—yr hyn sy'n digwydd ar yr ail a'r trydydd gwerthiant. Felly, yr ateb byr i'ch cwestiwn yw 'ydym'; rydym yn edrych eto i weld a yw hwnnw mewn gwirionedd yn cael yr effaith y bwriadwyd iddo ei chael, a pha ddata sydd ar gael i weld a yw'n effeithiol, neu a oes angen i ni wneud rhywbeth yn ei gylch fel rhan o waith ehangach mewn perthynas â'r broblem hon, sydd, yn amlwg, yn broblem ddifrifol iawn, ac sy'n tyfu'n fwy difrifol byth wrth i'r pandemig frathu ac wrth i bobl sylweddoli y gallant symud o'r dinasoedd i leoedd gwahanol a mwy prydferth.