Marchnadoedd Tai Gwledig

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 18 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 3:05, 18 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Weinidog, un o'r gwelliannau cynllunio a gyflwynwyd i'r system mewn Cynulliad blaenorol oedd gweithredu TAN 6 ar gyfer anheddau gwledig. Yn anffodus, fy mhrofiad i o TAN 6 yw ei fod bellach wedi newid i fod yn fodel eithaf soffistigedig. Yn hytrach na'i fod yn fodel hawdd ar gyfer datblygu eiddo gwledig ar gyfer gweithwyr gwledig, mae yna glytwaith o gyflawniad gan awdurdodau cynllunio, ac mae'n dibynnu ar eich cod post. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effeithiolrwydd TAN 6 i ddatblygu anheddau gwledig, fel y gall pobl ifanc aros mewn cymunedau gwledig, lle gallent fod yn gweithio fod mewn menter wledig?