Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 18 Tachwedd 2020.
Yn hollol, Jack, ac rydym yn ddiolchgar iawn i chi am rannu'r ddogfen bolisi gyda ni. Rydym yn parhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol i gynorthwyo pobl i ddod oddi ar y strydoedd, ac mae hynny'n cynnwys eu hanifeiliaid anwes. Yn aml iawn, mewn gwirionedd, bydd rhywun yn gwrthod dod i mewn os yw'n golygu bod eu hanifail anwes yn cael ei adael allan, ac rwy'n deall hynny'n llwyr, a phwy sydd ddim? Felly, rydym yn gwneud yn siŵr fod llety ar gael i bobl ag anifeiliaid anwes ac y gallant gadw'r anifail anwes gyda hwy wrth symud ymlaen. Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am rannu'r polisi gyda ni, a byddwn yn rhannu hwnnw ar draws yr awdurdodau lleol wrth i ni weithio drwy hyn.