2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 18 Tachwedd 2020.
6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd yng Ngogledd Cymru? OQ55857
Diolch, Mandy. Nid yw'r data diweddaraf a gyhoeddwyd wedi'i rannu yn ôl rhanbarth, mae arnaf ofn, ond mae'n dangos bod tua 101 o bobl, ddiwedd mis Awst, yn cysgu ar strydoedd ledled Cymru. Er bod hyn yn annerbyniol o uchel, mae'n dal yn wir fod miloedd, dros yr wyth mis diwethaf, wedi cael llety dros dro a llety parhaol.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Unwaith eto, hoffwn eich llongyfarch am eich gwaith yn cadw pobl oddi ar y strydoedd yn ystod y pandemig, gyda chefnogaeth yr holl asiantaethau a'r trydydd sector ac yn y blaen. Gwrandewais yn gynharach ar yr hyn a ddywedoch chi wrth siaradwyr eraill, ond rwy'n bryderus iawn o glywed y gallai hosteli gael eu gorfodi i leihau nifer y rhai sy'n cysgu ar y stryd y gallant roi llety iddynt oherwydd yr angen i gadw pellter cymdeithasol. A allwch chi wneud sylwadau ar hyn, ac a allwch chi ailddatgan eich ymrwymiad i sicrhau bod pobl sy'n cysgu ar y stryd yn cael eu cynnal mewn rhyw fath o lety?
Ie, rwy'n hynod o hapus i ailddatgan yr ymrwymiad hwnnw fel rwyf wedi'i wneud sawl gwaith eisoes y prynhawn yma—rwy'n hapus iawn i gael cyfle arall i wneud hynny. I fod yn glir, dywedwyd wrth awdurdodau lleol ledled Cymru y dylent gartrefu pawb sy'n dod atynt am eu bod angen cartref, felly nid oes porthgadw'n digwydd. Nid oes system ar waith a fyddai'n caniatáu i chi ddweud na ddylid cartrefu'r person hwnnw.
Wedi dweud hynny wrth gwrs, mae'n fwyfwy anodd dod o hyd i'r math iawn o lety i bobl. Roeddem yn ffodus iawn ein bod wedi gallu sicrhau nifer o westai, darpariaethau gwely a brecwast ac yn y blaen, a llety prifysgol, ond wrth i bobl fynd yn ôl i fusnes arferol, mae hynny'n fwyfwy anodd. Fel rhan o'n dull gweithredu cam 2, rydym yn adeiladu'n agos at 1,000 o dai newydd, a fydd, gobeithio, wedi'u cwblhau'n fuan iawn. Maent yn defnyddio dulliau modern o adeiladu, felly maent yn dai y gellir eu hadeiladu'n gyflym iawn. Maent yn dai hardd; nid rhyw fath o ateb dros dro yw'r rhain. Maent yn hyfryd, ond nid yw 1,000 yn ddigon o bell ffordd i fynd i'r afael â hyn.
Mae gennym reolwyr cysylltiadau o Lywodraeth Cymru o hyd sy'n gweithio ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru, i gynorthwyo swyddogion ar lawr gwlad i ddod o hyd i'r mathau cywir o lety ac i roi'r pecynnau cymorth ar waith ochr yn ochr â'r trydydd sector a phartneriaid eraill. Rydym yn dal yn ddiolchgar iawn am hynny. Er mwyn rhoi syniad i chi o'i faint, ar gyfartaledd mae'n costio £1.6 miliwn y mis i dalu costau ein dull 'pawb i mewn' cynhwysol—felly tua £20 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer yr ymateb brys am y flwyddyn gyfan, a hynny eleni yn unig. Felly, rydym wedi ymrwymo i hyn mewn gwirionedd. Nid yw'n beth hawdd i'w wneud, ond rydym yn bendant yn ei ariannu ac yn gweithio mewn partneriaeth â'n hawdurdodau lleol a phartneriaid eraill i sicrhau y gallwn wneud iddo ddigwydd.
Weinidog, dros y flwyddyn ddiwethaf, fe wyddoch fy mod wedi bod yn gweithio gyda nifer o sefydliadau ar bolisi sy'n ystyriol o anifeiliaid anwes—neu 'pawlicy', fel rwy'n hoffi ei alw. Fe wyddoch mai nod hwn yw sicrhau nad oes yn rhaid i neb ddewis rhwng eu cyfaill gorau—eu hanifail anwes—a chael mynediad at lety. Nawr, rwy'n deall o'ch ymateb i fy nogfen bolisi fod awdurdodau lleol ledled Cymru wrthi'n llunio cynlluniau digartrefedd ar hyn o bryd. Weinidog, a allwch chi fy sicrhau y bydd y cynlluniau hyn yn cynnwys gallu cadw eich anifail anwes a chael llety?
Yn hollol, Jack, ac rydym yn ddiolchgar iawn i chi am rannu'r ddogfen bolisi gyda ni. Rydym yn parhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol i gynorthwyo pobl i ddod oddi ar y strydoedd, ac mae hynny'n cynnwys eu hanifeiliaid anwes. Yn aml iawn, mewn gwirionedd, bydd rhywun yn gwrthod dod i mewn os yw'n golygu bod eu hanifail anwes yn cael ei adael allan, ac rwy'n deall hynny'n llwyr, a phwy sydd ddim? Felly, rydym yn gwneud yn siŵr fod llety ar gael i bobl ag anifeiliaid anwes ac y gallant gadw'r anifail anwes gyda hwy wrth symud ymlaen. Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am rannu'r polisi gyda ni, a byddwn yn rhannu hwnnw ar draws yr awdurdodau lleol wrth i ni weithio drwy hyn.