Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:13 pm ar 18 Tachwedd 2020.
Diolch, Weinidog. Rwy'n credu ein bod i gyd yn cefnogi'r nodau rydych newydd eu nodi, fel y mae ein cymdeithasau tai, wrth gwrs. Maent eisiau helpu i gyflawni'r agenda ddatgarboneiddio, ond yn amlwg bydd hyn yn galw am gyllid, a gobeithio y gellir gwneud hynny heb i gost codiadau rhent gael eu trosglwyddo i'r tenantiaid. Er mwyn osgoi sefyllfa lle bydd yn rhaid i rai o'r tenantiaid mwyaf agored i niwed dalu am y polisi hwn, a ydych chi'n edrych ar gynllun a fyddai'n cynorthwyo cymdeithasau tai i gyflawni ar y mater pwysig hwn a rhoi mecanweithiau iddynt godi'r arian hwn heb drosglwyddo'r cyfan i'r tenantiaid?