Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 18 Tachwedd 2020.
Ydw, yn bendant. Mae amrywiaeth o bethau gwahanol yn cael eu gwneud. Yn gyntaf oll, mae gennym y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio roeddwn yn sôn amdani'n gynharach, lle mae angen inni brofi pa dechnoleg, pa sgiliau, pa ôl-osod sy'n gweithio ar gyfer pob math penodol o dŷ. Felly, mae hynny'n datblygu'n gyflym ledled Cymru ar hyn o bryd. Rydym yn dod at ddiwedd safon ansawdd tai Cymru. Rydym wedi gorfod ei ymestyn ar gyfer un neu ddau o gynghorau oherwydd y pandemig, felly yn hytrach na diwedd y flwyddyn hon bydd yn ddiwedd y flwyddyn nesaf pan allwn ddweud o'r diwedd fod pob cyngor a phob landlord cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru wedi cyrraedd safon ansawdd tai Cymru. Rydym wedi arfer â safon ansawdd tai Cymru, ond pan wnaethom ei dechrau, câi ei hystyried yn hurt ac yn gwbl amhosibl, ac eto dyma ni; rydym wedi gwneud hynny ledled Cymru i raddau helaeth. Ac wrth gwrs, bydd yr holl arian a fuddsoddwyd gennym ynddi yn cael ei ailfuddsoddi i sicrhau ein bod yn gwneud hyn eto, ond bellach yng ngoleuni'r dechnoleg fodern sydd wedi deillio o'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio. Fel y dywedais yn gynharach mewn ymateb i Joyce Watson, nid rhaglen dai ar draws y Llywodraeth yn unig yw hon; caiff ei noddi ar y cyd â'r Gweinidog Addysg a Gweinidog yr economi a minnau, am yr union resymau a nodais. Felly, mae hyn yn ymwneud ag adeiladu'r diwydiant, adeiladu'r sgiliau ac adeiladu'r dechnoleg yma yng Nghymru er mwyn gallu datrys y broblem, wrth symud ymlaen, nid yn unig ar gyfer tai, ond ar gyfer cyflogaeth a'r gallu technolegol a'r sgiliau sy'n dod ochr yn ochr â hynny.