Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 18 Tachwedd 2020.
A gaf fi ddweud wrth yr Aelodau fod disgyblion blwyddyn 6 Ysgol Gynradd Santes Helen yn Abertawe yn ein gwylio? Felly rwy'n gobeithio ein bod i gyd yn ymddwyn yn dda. Ddirprwy Weinidog, mae sicrhau bod rhieni mewn cyflogaeth ddiogel a chynaliadwy yn elfen hynod bwysig o liniaru tlodi plant. Tybed a allwch ddweud wrthym sut rydych yn gweithio gyda chyd-Aelodau yn y Cabinet i helpu i baru dysgwyr sy'n oedolion â chyfleoedd dysgu sy'n seiliedig ar waith, er mwyn gwella eu rhagolygon cyflogaeth a chefnogi eu teuluoedd. Diolch.