Tlodi Plant

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 18 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 2:32, 18 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn, a dymuno'n dda i'r myfyrwyr blwyddyn 6, a gobeithio y byddant yn mwynhau eu profiad yn gwylio'r Senedd ar waith heddiw? A gobeithio, yn y dyfodol heb fod yn rhy bell, y byddant yn gallu dod i eistedd yn yr oriel i wylio hefyd.

Gadewch imi ddweud wrth yr Aelod, wrth ateb ei chwestiwn, ein bod yn amlwg yn gweithio ar draws y Llywodraeth nid yn unig i sicrhau bod teuluoedd a chymunedau'n ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael ar ffurf lles a nawdd cymdeithasol, ond o ran cael mynediad at y cyfleoedd hynny drwy bethau fel y rhaglen Cymunedau am Waith a Cymunedau am Waith a Mwy, ond hefyd mewn gwirionedd gyda'r gwaith rydym yn ei wneud ar draws y Llywodraeth yn ymgorffori gwaith teg mewn cymunedau ledled Cymru. Ac yn y dyfodol heb fod yn rhy bell, byddwn yn ceisio sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r hawliau a'r cyfrifoldebau hynny, o ran mynediad at waith a sut y gallant fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi pellach, nid yn unig i unigolion ond i gyflogwyr hefyd.