Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 18 Tachwedd 2020.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Unwaith eto, hoffwn eich llongyfarch am eich gwaith yn cadw pobl oddi ar y strydoedd yn ystod y pandemig, gyda chefnogaeth yr holl asiantaethau a'r trydydd sector ac yn y blaen. Gwrandewais yn gynharach ar yr hyn a ddywedoch chi wrth siaradwyr eraill, ond rwy'n bryderus iawn o glywed y gallai hosteli gael eu gorfodi i leihau nifer y rhai sy'n cysgu ar y stryd y gallant roi llety iddynt oherwydd yr angen i gadw pellter cymdeithasol. A allwch chi wneud sylwadau ar hyn, ac a allwch chi ailddatgan eich ymrwymiad i sicrhau bod pobl sy'n cysgu ar y stryd yn cael eu cynnal mewn rhyw fath o lety?