Part of the debate – Senedd Cymru am 3:32 pm ar 18 Tachwedd 2020.
Nid bob dydd y mae Wrecsam yn dod i'r brig fel stori newyddion ledled y DU—ond nid bob dydd chwaith y daw dau o sêr Hollywood yn berchnogion newydd clwb pêl-droed Wrecsam. Ac ers y cyhoeddiad ddydd Llun fod cefnogwyr wedi pleidleisio i dderbyn y cynnig gan Ryan Reynolds a Rob McElhenney, cafwyd tonnau o sylw yn y cyfryngau, ac mae'r dref wedi'i chyffroi drwyddi. Mae'r trydydd clwb proffesiynol hynaf yn y byd wedi gweld adegau gwych a gwael yn y gorffennol—ar y cae ac oddi arno, gyda'r fuddugoliaeth enwog yn erbyn Arsenal yn uchafbwynt arbennig i mi, ac i sawl un arall rwy'n siŵr.
Mae'r ddau ddarpar berchennog newydd wedi pwysleisio eu bod yn deall ac yn parchu gwreiddiau cymunedol dwfn y clwb, ei waddol, a'i berthynas â thrychineb Gresford. Maent yn gefnogwyr. Ac yn wahanol i rai perchnogion blaenorol, nid ydynt yn ei wneud er mwyn ennill arian yn hawdd. Ac wrth i'r bennod hon ddechrau, ni ddylem anghofio, wrth gwrs, y gwaith y mae Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam wedi'i wneud i ddiogelu'r clwb ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol—mae miloedd o wirfoddolwyr di-dâl wedi buddsoddi arian, amser ac ymdrech yn eu clwb cymunedol, a dylent fod yn falch o'u cyfraniad.
Gwelais y Prif Weinidog yn llongyfarch y perchnogion newydd ddoe, a bydd mwy o sylw yn y cyfryngau rhyngwladol i brifddinas gogledd Cymru dros y misoedd nesaf. Rydym wedi gweld hefyd sut y mae noddwr y crysau—un Ifor Williams, neu 'E-for Williams', fel y maent yn cael eu galw erbyn hyn mae'n debyg—maent eisoes wedi elwa ar sgiliau marchnata'r ddau ddarpar berchennog. Llwyddodd fideo a oedd yn hyrwyddo'r cwmni trelars yng Nghorwen i ddenu mwy na 4 miliwn o wylwyr mewn ychydig oriau'n unig.
Mae hyn yn hwb mawr i'r dref, ac i ogledd Cymru i gyd, ar ôl yr hyn a fu, wrth gwrs, yn flwyddyn eithaf llwm a digalon. Ac edrychaf ymlaen, fel yr holl Aelodau o'r Senedd hon, rwy'n siŵr, at y bennod nesaf yn hanes disglair y clwb.