– Senedd Cymru am 3:28 pm ar 18 Tachwedd 2020.
A'r datganiadau 90 eiliad, felly, sydd nesaf. Mae'r datganiad cyntaf gan Jenny Rathbone.
Diolch, Lywydd. Y dydd Gwener hwn yw Diwrnod Cyflog Cyfartal. Am weddill y flwyddyn hon, mae menywod i bob pwrpas yn gweithio am ddim oherwydd y diffyg o ran yr hyn y dylent fod yn ei ennill o'i gymharu â dynion. Ysbrydolwyd Deddf Cyflog Cyfartal Barbara Castle ym 1970 gan streic peirianwyr gwnïo Ford Dagenham. Roeddent wedi cael llond bol ar weld eu gwaith medrus iawn yn ennill llai iddynt na'r hyn roedd dynion yn ei ennill am ysgubo llawr y ffatri o'u cwmpas. Wedi'u hysbrydoli gan fenywod Dagenham—nid oedd Ford Pen-y-bont ar Ogwr yn bodoli ar y pryd—penderfynodd menywod yn ffatri Hoover ym Merthyr Tudful roi prawf ar y Ddeddf Cyflog Cyfartal newydd hon ym 1970. Roedd rheolwyr Hoover yn fodlon, ond mae'r ffordd yr adweithiodd y gweithlu gwrywaidd, gyda chefnogaeth eu harweinwyr gwrywaidd yn yr undebau llafur, fel yn Ford, yn dangos pam ei bod wedi cymryd cyhyd i sicrhau cyflog cyfartal.
Mae dwywaith cymaint o fenywod wedi colli eu swyddi yn ystod y pandemig, gan fod dynion a chyflogwyr yn tybio y byddai menywod yn ysgwyddo'r rhan fwyaf o'r gwaith addysgu ychwanegol gartref, y gwaith tŷ a'r gofal plant yn ystod y cyfyngiadau symud, a dyna'n union sydd wedi digwydd. Mae'r frwydr gyflogau ddiweddaraf ar y cae pêl-droed. Mae sgwad pêl-droed menywod Cymru yn mynnu cyflog cyfartal â thîm y dynion. Mae menywod sy'n cynrychioli Lloegr yn rhyngwladol eisoes yn cael yr un cyflog â'u cymheiriaid gwrywaidd, ond nid yw Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi gwneud datganiad hyd yn hyn ar rinweddau cyflog cyfartal i dîm menywod Cymru.
Eleni, rydym yn dathlu canmlwyddiant Cymdeithas y Wrens a Gwasanaethau Menywod y Llynges Frenhinol (WRNS), sy'n cadw ffrindiau a chyn-gymheiriaid mewn cysylltiad. Mae Barbara McGregor, swyddog gwarant dosbarth 1 RNCS, sy'n byw yn Abercynfig, yn un o ymddiriedolwyr y gymdeithas. Mae'n ymddeol eleni, ar ôl 44 mlynedd o wasanaeth rhagorol yng Ngwasanaeth Menywod y Llynges Frenhinol. Ymunodd yn gyntaf fel gweithiwr radio Wren yn 1977 ac wrth drosglwyddo i'r gangen reoleiddio, daeth yn orau yn ei dosbarth o 12 dyn. Ar y cychwyn, y drefn yn HMS Raleigh Cornwall, y sefydliad hyfforddi newydd-ddyfodiaid, oedd hyfforddi graddfeydd newydd i fenywod ar gyfer WRNS, ac yn ddiweddarach, ar ôl cael ei dyrchafu'n feistr arfau, bu'n hyfforddi recriwtiaid benywaidd a gwrywaidd gyda'i gilydd am y tro cyntaf, a lle dechreuodd menywod fynd i'r môr am y tro cyntaf.
Gan ddychwelyd yn 1994, ar ôl arloesi gydag absenoldeb mamolaeth, fel rheolwr swyddfa canolfan cyswllt gyrfaoedd swyddogion y Llynges Frenhinol ym Mryste, cododd drwy'r rhengoedd i ddod yn rheolwr datblygu rhanbarthol ar gyfer Rheolaeth Ranbarthol y Llynges ar gyfer Cymru a Gorllewin Lloegr, gan gynnwys swyddfeydd gyrfaoedd y lluoedd arfog o Wrecsam i Redruth. Roedd ganddi rôl bwysig yn uwchgynhadledd NATO yng Nghaerdydd yn 2014, ac fe'i hetholwyd i fod yn swyddog gwarant uchaf gwasanaeth gyrfaoedd y Llynges Frenhinol rhwng 2018 a heddiw.
Roedd hi i fod i arwain cynrychiolaeth Cymdeithas y Wrens wrth y senotaff yn Whitehall am y tro olaf fel swyddog gwarant sy'n gwasanaethu, ond nid oedd hyn i fod oherwydd COVID. Yn hytrach, gwisgodd ei lifrai am y tro olaf i osod torch wrth senotaff Bryn, ger Maesteg, lle hanai ohono'n wreiddiol. Rydym yn talu teyrnged i Barbara McGregor, swyddog gwarant dosbarth 1 RNCS, a'r holl fenywod sydd wedi gwasanaethu'n ddewr ac yn anrhydeddus yn ein llynges, ac i Gymdeithas y Wrens a Gwasanaethau Menywod y Llynges Frenhinol ar adeg eu canmlwyddiant. Diolch, bawb.
Nid bob dydd y mae Wrecsam yn dod i'r brig fel stori newyddion ledled y DU—ond nid bob dydd chwaith y daw dau o sêr Hollywood yn berchnogion newydd clwb pêl-droed Wrecsam. Ac ers y cyhoeddiad ddydd Llun fod cefnogwyr wedi pleidleisio i dderbyn y cynnig gan Ryan Reynolds a Rob McElhenney, cafwyd tonnau o sylw yn y cyfryngau, ac mae'r dref wedi'i chyffroi drwyddi. Mae'r trydydd clwb proffesiynol hynaf yn y byd wedi gweld adegau gwych a gwael yn y gorffennol—ar y cae ac oddi arno, gyda'r fuddugoliaeth enwog yn erbyn Arsenal yn uchafbwynt arbennig i mi, ac i sawl un arall rwy'n siŵr.
Mae'r ddau ddarpar berchennog newydd wedi pwysleisio eu bod yn deall ac yn parchu gwreiddiau cymunedol dwfn y clwb, ei waddol, a'i berthynas â thrychineb Gresford. Maent yn gefnogwyr. Ac yn wahanol i rai perchnogion blaenorol, nid ydynt yn ei wneud er mwyn ennill arian yn hawdd. Ac wrth i'r bennod hon ddechrau, ni ddylem anghofio, wrth gwrs, y gwaith y mae Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam wedi'i wneud i ddiogelu'r clwb ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol—mae miloedd o wirfoddolwyr di-dâl wedi buddsoddi arian, amser ac ymdrech yn eu clwb cymunedol, a dylent fod yn falch o'u cyfraniad.
Gwelais y Prif Weinidog yn llongyfarch y perchnogion newydd ddoe, a bydd mwy o sylw yn y cyfryngau rhyngwladol i brifddinas gogledd Cymru dros y misoedd nesaf. Rydym wedi gweld hefyd sut y mae noddwr y crysau—un Ifor Williams, neu 'E-for Williams', fel y maent yn cael eu galw erbyn hyn mae'n debyg—maent eisoes wedi elwa ar sgiliau marchnata'r ddau ddarpar berchennog. Llwyddodd fideo a oedd yn hyrwyddo'r cwmni trelars yng Nghorwen i ddenu mwy na 4 miliwn o wylwyr mewn ychydig oriau'n unig.
Mae hyn yn hwb mawr i'r dref, ac i ogledd Cymru i gyd, ar ôl yr hyn a fu, wrth gwrs, yn flwyddyn eithaf llwm a digalon. Ac edrychaf ymlaen, fel yr holl Aelodau o'r Senedd hon, rwy'n siŵr, at y bennod nesaf yn hanes disglair y clwb.
Da iawn. Byddwn ni'n atal y cyfarfod nawr am gyfnod byr er mwyn gwneud newidiadau yn y Siambr. Felly, diolch, a byddwn ni nôl mewn ychydig funudau.