Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 18 Tachwedd 2020.
Gallaf ddweud hyn wrthych oherwydd fy mod mewn cysylltiad rheolaidd iawn â'r cynghorydd lleol yno, Jon Preston, sydd wedi gwneud popeth yn ei allu i godi pontydd mewn cymunedau ac i dawelu ofnau pobl. Felly, hoffwn ddiolch i'r holl gynrychiolwyr lleol sydd wedi gwneud yr un peth. Hoffwn ddiolch yn arbennig i'r gwasanaeth heddlu. Mae comisiynydd yr heddlu a throseddu wedi bod ar y safle ei hun ddwywaith, ac mae'n falch iawn o'r gwaith rhagorol y mae'r heddlu wedi'i wneud i geisio cadw pethau'n dawel er mwyn amddiffyn y gymuned leol.
Mae'r cynnig yn cyfeirio at broblemau yn y gwersyll, o ran ymddygiad. Wel, mae'r Gweinidog wedi mynd i'r afael â hynny. Pan fydd gennych nifer fawr o ddynion ifanc ymhell o'u cartref, dynion nad ydynt yn deall ei gilydd, pobl nad ydynt yn siarad eu hiaith, bydd yna broblemau, a bydd gwrthdaro. Mae comisiynydd yr heddlu a throseddu—rwyf wedi cyfathrebu ag ef am hyn heddiw—yn dweud nad yw'r ymddygiad hwnnw'n wahanol i'r hyn y byddai'n ei ddisgwyl gan unrhyw grŵp mawr o ddynion ifanc nad oeddent yn cael eu cefnogi'n briodol yn eu hiaith a'u diwylliant eu hunain. Felly, gadewch i ni ddeall hynny unwaith ac am byth.
Credaf fod Joyce Watson wedi dadlau'n bwerus iawn ynglŷn â pha mor anaddas yw'r safle. Nid wyf yn deall yn iawn sut y gall Angela Burns fynnu ei fod yn addas. Nid yw wedi'i wresogi'n iawn. Cyfeiriodd y Dirprwy Weinidog at y ffaith ei bod yn anodd iawn cadw pellter cymdeithasol. Nid dyma'r lle iawn i bobl fod. Nid yw'r gwaith rhagorol y mae'r gwasanaeth iechyd lleol a'r cyngor lleol yn ceisio'i wneud i ymateb i'w hanghenion yn lliniaru'r ffaith nad dyma'r lle iawn iddynt fod.
Nawr, fel arfer yn y sefyllfaoedd hyn, Ddirprwy Lywydd, rwy'n anwybyddu'r Aelod o Wiltshire. Ond y tro hwn, mae arnaf ofn fod yn rhaid i mi ymateb i rai o'r pwyntiau a wnaeth a'r pwyntiau y methodd eu gwneud. A yw'r bobl o'r un farn â Neil Hamilton? Wel, nid dyna mae eu cynghorydd sir, y siaradaf ag ef yn rheolaidd, yn ei ddweud wrthyf. Maent wedi'u brawychu gan y ffordd y mae ef a'i debyg yn chwarae gyda phobl sy'n agored i niwed, ac yn chwarae—fel y soniodd Leanne Wood—â phryderon dilys pobl.
A yw'r ffaith ein bod yn genedl noddfa yn broblem? A yw'n credu mewn gwirionedd fod pobl yn Syria—. Byddwn yn eithaf balch pe bawn yn meddwl bod pobl yn Syria yn gwybod bod Cymru'n genedl noddfa ac y byddem yn eu croesawu. Maent yn dod—a soniodd Angela Burns am hyn, ac roeddwn yn meddwl bod hwnnw'n bwynt pwerus iawn—yn sgil amrywiaeth eang o sefyllfaoedd geowleidyddol sy'n golygu nad yw pobl yn ddiogel.
Nid yw'n wir y gall unrhyw un a phawb ddod i aros yn y DU, ac nid oes neb yn cynnig y dylai hynny ddigwydd. Sut y mae'n credu ei fod yn gwybod sut y mae'r bobl sydd yn y gwersyll wedi cyrraedd yno? Nid yw'n gwybod. Nid oes ganddo'r syniad lleiaf. Mae llawer ohonynt, fel y dywedodd Angela Burns, wedi bod yn y DU ers amser maith. Nid pobl sy'n arllwys dros ein ffiniau yw'r rhain, fel y byddai'n dweud wrthym. Nid oes ganddo unrhyw ffordd o wybod a yw eu ceisiadau'n debygol o gael eu derbyn. Ond yn sicr, mae mudiadau gwirfoddol lleol sy'n gweithio gyda hwy yn dweud wrthyf fod llawer o'r bobl hyn wedi dod o leoedd fel Syria, lle mae'n debygol iawn y bydd eu ceisiadau'n cael eu derbyn.
Credaf fod Leanne Wood yn iawn i dynnu ein sylw at ddynoldeb ein ceiswyr lloches, fel y gwnaeth Mick Antoniw yn drawiadol iawn. Ac roedd hi'n iawn i dynnu sylw at sut y mae'r dde eithafol yn ceisio bwydo ar ymdeimlad cyfiawn pobl o annhegwch a gofid.
Cyfraniad Angela Burns: llawer i gytuno ag ef yno. Mae hwn yn fater gwleidyddol, serch hynny. Byddwn yn dweud wrth Angela Burns fod hwn yn fater gwleidyddol, ac mae'n iawn iddo gael ei drafod gan wleidyddion. Felly, nid yw'n ymwneud â sgorio pwyntiau. Mae'n ymwneud â cheisio agor dadl onest a chlir yn seiliedig ar y ffeithiau. Mae hi'n iawn, fel rwyf eisoes wedi dweud, am y sefyllfaoedd geowleidyddol sy'n gwneud i bobl ffoi, ond mae hi'n anghywir i ddweud bod y llety'n addas. A phan ofynnodd y cwestiwn ynglŷn â ble y dylent fynd, wel, beth y dylent ei wneud, yr hyn y mae angen i'r Swyddfa Gartref ei wneud yw ehangu'r llety sydd ar gael yn y canolfannau gwasgaru presennol yng Nghymru a ledled y DU—nid wyf yn hoffi'r term 'gwasgaru' ond dyna a ddefnyddiwn—fel y gellir cefnogi'r dynion ifanc hyn yn briodol ac yn addas a phrosesu eu ceisiadau'n gyflym, fel y dywedodd y Dirprwy Weinidog yn gywir, er mwyn gallu gwneud penderfyniadau y naill ffordd neu'r llall.
Mae Mick Antoniw yn gofyn: beth yw'r gwahaniaeth rhwng y ffoaduriaid hyn a'i deulu? Mae'n iawn i ddweud nad oes unrhyw wahaniaeth. Mae arnaf ofn, serch hynny, Ddirprwy Lywydd, mai lliw eu croen fydd y gwahaniaeth i rai pobl. Os felly, mae angen i bobl fod â chywilydd dwfn.
Rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth y Dirprwy Weinidog i'n cynnig, ac rydym wedi'i eirio mewn ffordd a oedd mor gydsyniol ag y gallem ei wneud. Mae'n iawn i ailymrwymo i'r syniad o'n cenedl fel cenedl noddfa, i dynnu sylw eto at yr ymateb cymunedol. Nid yw hon yn sefyllfa y dylem fod ynddi, ac fe ddof i ben—Ddirprwy Lywydd, gwn eich bod wedi bod yn hael iawn gyda'r amser—drwy ddweud hyn, a siaradaf yma drosof fy hun a thros rai o gynigwyr y cynnig ond nid pob un ohonynt. Mae'n fater o anhapusrwydd mawr i mi nad oes hawl gan ein Llywodraeth i reoli'r materion hyn, y gall Llywodraeth y DU na phleidleisiodd pobl Cymru drosti—ni wnaethom ethol mwyafrif o ASau Ceidwadol—orfodi hyn ar y cymunedau, ar y gwasanaethau cyhoeddus ac ar y ceiswyr lloches, yn bwysicaf oll. Rwy'n edrych ymlaen at y diwrnod, un diwrnod, Ddirprwy Lywydd, pan allwn wneud y penderfyniadau hyn yma, pan na fydd y Swyddfa Gartref yn gwneud cais am ganiatâd cynllunio i'r Weinyddiaeth Amddiffyn.
Boed hynny fel y bo, hyd nes y gallwn wneud y penderfyniadau hynny drosom ein hunain, mae'n iawn fod Llywodraeth Cymru ac eraill yn parhau i negodi gyda'r Swyddfa Gartref i gael y dynion ifanc hyn wedi'u gwasgaru i gymunedau a all eu cefnogi'n briodol a lle gellir ymdrin â'u ceisiadau'n briodol. Ddirprwy Lywydd, mae'n amlwg mai dyna yw'r consensws yn y lle hwn ac rydym yn adnabod y cymunedau a gynrychiolwn. Rwy'n cynnig mai dyna yw consensws pobl Cymru.