6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Cartrefu ceiswyr lloches yng ngwersyll milwrol Penalun

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:14 pm ar 18 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 4:14, 18 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar iawn i chi, Ddirprwy Lywydd. Fel eraill, rwy'n ddiolchgar i bawb ac eithrio un o'r rhai sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon. Rhaid i mi egluro pam y dewisasom ei chyflwyno. Y rheswm am hynny yw mai dadl wleidyddol yw hon; penderfyniadau gwleidyddol yw'r rhain, penderfyniadau a wnaed am resymau gwleidyddol, ac yn waeth, mae yna rai ar yr asgell dde eithafol sy'n ceisio gwneud elw gwleidyddol o hyn, fel y dywedodd Leanne Wood ac eraill. Weithiau, Ddirprwy Lywydd, gallwch ymdrin â'r materion hyn drwy aros yn dawel a'u hanwybyddu. Weithiau rhaid i chi siarad, a dyna pam y dewisodd yr Aelodau gyflwyno'r cynnig hwn heddiw.

Ni allaf ymateb i'r holl bwyntiau y mae'r Aelodau wedi'u gwneud, ond cyn i mi ddechrau ceisio gwneud hynny, hoffwn ategu diolchiadau eraill i bawb, ac i'r gymuned leol yn bennaf oll. Gwn yn sicr, fel cynrychiolydd lleol—fel y mae Joyce Watson, ac Angela Burns yn gwybod—fod y mwyafrif helaeth o bobl yn y cymunedau hynny, er nad ydynt yn credu ei bod yn iawn i'r ceiswyr lloches fod yno, yn eu trin â charedigrwydd a pharch, ac yn gwneud yr hyn a allant i helpu.