Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 18 Tachwedd 2020.
Mae bob amser yn bleser ac yn rhwystredig, weithiau, cael dilyn Helen Mary, oherwydd mae hi mor ysbrydoledig ac weithiau'n bryfoclyd yn ei sylwadau, a byddwn yn dweud ei fod yn gyfuniad hyfryd i'w gael gan un o'ch gwrthwynebwyr.
O ran y cynllun ffyrlo, sy'n sylweddol iawn yn fy marn i, rydym wedi galw am rywbeth y mae Llywodraeth y DU wedi gwrando arno—ein llais ni, ymhlith llawer o leisiau eraill, mae'n siŵr. Ond mae'n bwysig iawn i'r sector. Darllenais yn y 'Financial Times' heddiw mai'r sector treftadaeth, ar 30 y cant, yw'r sector sy'n gwneud y defnydd mwyaf o'r cynllun ffyrlo, a dywedodd yr amgueddfa genedlaethol wrthym pa mor bwysig oedd y cynllun iddynt hwy. Felly, rwy'n falch y bydd yma tan ddiwedd mis Mawrth ac mae Llywodraeth y DU wedi gwneud y peth iawn.
Roeddwn yn credu bod Helen Mary ar fin canmol Llywodraeth y DU, ond tynnodd yn ôl ar y funud olaf, gan gadw ei hygrededd o fewn ei phlaid ei hun beth bynnag, rwy'n credu, hyd yn oed os—. Roeddwn yn aros i weld rhyfeddod y naid honno i ganmol Llywodraeth y DU. Ond o ddifrif, mae'r cynllun ffyrlo wedi bod yn gynllun pwysig iawn, a nawr ein bod ar fin gweld ein ffordd allan o'r argyfwng gyda brechlyn rownd y gornel, rwy'n credu y gwelir bod y cynllun ffyrlo, wrth edrych yn ôl, wedi bod yn rhan allweddol o reoli canlyniadau economaidd yr argyfwng iechyd cyhoeddus erchyll hwn.
Credaf fod Helen yn llygad ei lle wrth ddweud am bwysigrwydd digideiddio'r casgliadau, gwaith sydd wedi datblygu'n sylweddol iawn. Cawsom dystiolaeth yr wythnos diwethaf ynglŷn â pha mor arloesol oedd y llyfrgell genedlaethol 20 mlynedd yn ôl pan ddechreuodd ar y math hwn o weithgaredd, a'r amgueddfa hefyd, fe wyddom. A chredaf y byddai llawer ohonom wedi defnyddio'r adnoddau hyn: mae llawer o ysgolion, llawer o fyfyrwyr, a llawer o ddinasyddion na fyddent o bosibl wedi ymweld â chyfleusterau'r sefydliadau treftadaeth gwych hyn eu hunain wedi gallu gweld rhai o'r adnoddau bendigedig ar-lein. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig i hynny barhau oherwydd bod iddo botensial i ddod â'r casgliadau cyfan yn fyw, nid yn unig y rhai y gellir eu dehongli ar unrhyw un adeg, neu eu harddangos yn ffisegol ar unrhyw un adeg.
Y trydydd pwynt yr hoffwn ei wneud yw pwysigrwydd mynd i'r afael ag allgáu cymdeithasol a hyrwyddo cydraddoldeb a gwell canlyniadau iechyd. Oherwydd rydym wedi gweld cyfleusterau'n agor ychydig wythnosau'n ôl erbyn hyn. Gwnaeth yr amgueddfa genedlaethol gynlluniau ar gyfer ailagor Sain Ffagan yn rhannol, er enghraifft; wrth gwrs, mae trefniadau rhagarchebu a chyfyngiadau ar waith yno. Ond mae'n bwysig iawn fod ein cyfleusterau'n agored i bobl pan fydd ganddynt fwy o amser a phan fyddant am fynd i weld yr atyniadau hyn a hefyd i wneud ymarfer corff ar y safleoedd niferus yn y sector treftadaeth—eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a phethau tebyg. Felly, mae gwneud hyn mewn ffordd sy'n rhoi'r mynediad mwyaf posibl i'r rheini nad oes ganddynt y cyfleusterau hyn o bosibl a'r gallu, yn lleol, i fwynhau gerddi neu beth bynnag yn eithaf hanfodol yn fy marn i, fel y mae agor y cyfleusterau hyn i ysgolion fel mater o flaenoriaeth, ac yn enwedig y rheini sydd mewn ardaloedd o dlodi cymharol.
Ar gyfer y dyfodol hefyd, credaf y bydd casglu deunydd o'r cymunedau hyn ar sut y llwyddasant i ymdopi â COVID yn bwysig iawn. Oherwydd pe bai unrhyw un ohonom wedi astudio epidemig 1920, rwy'n siŵr y byddai'n canolbwyntio ar salwch Lloyd George, gwaith yr elusennau mawr, Ambiwlans Sant Ioan efallai—rwy'n gwisgo eu tei, Urdd Sant Ioan, heddiw—sefydliadau gweithgar a phwerus iawn o ran cadw cofnodion, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn cadw hynny i gyd. Ond rwy'n credu y byddai llawer o'r pethau cymdeithasol wedi'u colli 100 mlynedd yn ôl, ond nawr gallwn gyfleu hynny. Bydd gennym ddyddiaduron, bydd gennym gynlluniau gwaith ac adroddiadau dosbarth gan bob math o ysgolion a sefydliadau cymunedol sy'n helpu pobl i brosesu'r digwyddiad anhygoel hwn yn ein bywyd cenedlaethol. A chredaf y bydd yn bwysig iawn dysgu o hynny yn y dyfodol, felly cadw'r adnoddau hynny, ond hefyd cyfleu'r profiad hwnnw, a chredaf y byddai o werth hanesyddol mawr. Oherwydd bu'n rhaid inni astudio'r hyn a ddigwyddodd 100 mlynedd yn ôl ac atgoffa ein hunain bod masgiau'n cael eu gwisgo 100 mlynedd yn ôl ar strydoedd Caerdydd ac nid yn unig yn Tokyo neu lle bynnag, lle credwn mai peth Asiaidd yn unig yw gwisgo masgiau, a chredaf fod hynny'n ddadlennol iawn. Felly, gobeithio y daw hynny'n rhan annatod o gasgliadau cenedlaethol.
Ac a gaf fi ganmol y sefydliadau sy'n gweithio mor galed? Rwyf newydd ddarllen yr wythnos hon am y £55,000 y mae'r amgueddfa wedi'i gael i roi hwb i'w chynnig dysgu yn ystod COVID, a daeth yr adnodd hwnnw o gronfa'r Fonesig Vivien Duffield, ac mae'n dangos i chi nad yw ein sefydliadau treftadaeth yn dibynnu ar grantiau'r Llywodraeth yn unig ond eu bod allan yno'n ceisio cael y gwerth mwyaf posibl i ni a bod ystod eang o arian ar gael iddynt pan fyddant yn codi arian yn effeithiol iawn. Diolch, Ddirprwy Lywydd.