Part of the debate – Senedd Cymru am 4:32 pm ar 18 Tachwedd 2020.
Diolch yn fawr i'r pwyllgor am adroddiad arall ac am y cyfle i'w drafod o heddiw yma. Mae'r gyfres yma o adroddiadau wedi bod yn ddefnyddiol iawn i daflu goleuni ar effaith COVID ar wahanol rannau o’r sector celfyddydau a chreadigol, ac, yn bwysicach, yn cynnig argymhellion pendant am beth sydd angen ei wneud.
Mae'r adroddiad yma, wrth gwrs, yn edrych yn benodol ar effaith COVID ar dreftadaeth, amgueddfeydd ac archifau. Mi ydym ni ym Mhlaid Cymru yn hollol grediniol bod yn rhaid i Lywodraeth gefnogi ein sefydliadau diwylliannol cenedlaethol allweddol er mwyn sicrhau eu cadernid a'u datblygiad i'r dyfodol. Mae gennym ni nifer dda o sefydliadau cenedlaethol sy'n cyfrannu'n helaeth at ein bywyd diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd. Maen nhw'n rhan greiddiol o fywyd ein gwlad, yn cwmpasu theatr, opera a dawns, llenyddiaeth a llyfrau, archifau ac amgueddfeydd, heb anghofio’r Eisteddfod Genedlaethol, wrth gwrs. Ond mae'r sefydliadau yma yn wynebu heriau sylweddol yn sgil yr argyfwng iechyd presennol, ond mae'n rhaid pwysleisio, fodd bynnag, fod y sefyllfa sy’n wynebu’r sector ar hyn o bryd wedi cael ei gwneud yn waeth oherwydd tanwariant, tanfuddsoddiad a llymder dros y ddegawd diwethaf. Mae'n rhaid i'r Llywodraeth nesaf fynd i'r afael â hyn mewn ffordd gadarn a diamwys a rhoi'r cymorth a'r gefnogaeth briodol a haeddiannol i'n sefydliadau pwysig ni.
Fe gyhoeddwyd adroddiad blynyddol Llyfrgell Genedlaethol Cymru yr wythnos diwethaf, oedd yn crynhoi hanes blwyddyn brysur iawn i’r sefydliad, efo bron i 2 filiwn o ymweliadau i’w gwefannau ac mae yna dros 300,000 o eitemau wedi cael eu digideiddio. Yn ddiweddar, fe gynhaliodd y llyfrgell genedlaethol yr adolygiad teilwredig, ac mae'n rhaid dweud bod y sefyllfa ariannol bresennol yn un difrifol. Mae'r llyfrgell wedi profi gostyngiad o 40 y cant yn ei grant cynnal—dydy hynny ddim yn wir am sefydliadau cenedlaethol eraill. Mae sefyllfa'r amgueddfa genedlaethol yn fregus hefyd, ac mae tanfuddsoddiad wedi bod o ran isadeiledd a chynnal a chadw’r safleoedd. Mae yna ôl-groniad cynnal a chadw cyfalaf o fwy na £60 miliwn ar gyfer ei wyth safle. Maen nhw wedi bod yn llwyddiannus o ran cynyddu'r incwm a denu nawdd dros y blynyddoedd diwethaf, ond yn amlwg mae COVID wedi ychwanegu at yr ansicrwydd a'r ansefydlogrwydd, ac mi fyddai cael diweddariad gan y Dirprwy Weinidog am y trafodaethau ariannol efo'r amgueddfa genedlaethol a'r llyfrgell genedlaethol yn fuddiol iawn, dwi'n credu.
Fel mae Helen Mary wedi sôn, mae COVID wedi tynnu sylw at bwysigrwydd y maes digidol, ac mae'r adroddiad gan y pwyllgor yn rhoi sylw haeddiannol i hyn. Mae angen i sefydliadau gydweithio a pheidio â dyblygu gwaith, yn enwedig o ran paratoi defnyddiau dysgu digidol ar gyfer y cwricwlwm cenedlaethol a byrddau iechyd. Ac mae angen i'r cynnydd mewn gweithgareddau ar-lein gael adnoddau priodol i lwyddo. Felly, byddwn i'n hoffi gofyn i'r Dirprwy Weinidog sut mae o'n meddwl y dylai setliadau cyllid ar gyfer y sector yn y dyfodol ddarparu ar gyfer digideiddio casgliadau lleol a chenedlaethol a darparu ar gyfer gweithgareddau addysgol ac allgymorth ar y we.
Gaf i droi at ddau fater i gloi? Mae Eluned Morgan wedi nodi bod Llywodraeth Cymru am ryddhau astudiaeth dichonoldeb ar sefydlu archif genedlaethol i Gymru. Dwi'n credu bod hyn yn rhan o'r ddealltwriaeth oedd rhwng y Llywodraeth yma a Phlaid Cymru ar gychwyn y Senedd yma. Mae COVID-19 wedi amharu ar waith yr ymchwiliad, dwi'n deall, ond dwi yn edrych ymlaen at weld y casgliadau a beth fydd y camau nesaf yn sgil yr astudiaeth yma. Felly, mi fyddai'n ddefnyddiol os medr y Dirprwy Weinidog roi ryw fath o amserlen inni ar gyfer cyflwyno'r gwaith yma.
Mae COVID-19 wedi amlygu'r argyfwng ail gartrefi sy'n wynebu ein cymunedau ni, ac, efo hynny, mae yna beryg i'n treftadaeth ni hefyd wrth i enwau gwreiddiol rhai o'r tai yma gael eu colli am byth. Mae'r ffordd mae'r Llywodraeth yma wedi llusgo ei thraed pan fo'n dod i amddiffyn enwau lleoedd Cymraeg yn hynod siomedig. Rydym ni'n parhau i wynebu sefyllfa lle does yna ddim ffordd o ddiogelu enwau lleoedd hanesyddol Cymru—enwau sy'n rhan mor bwysig o dreftadaeth a hanes ein gwlad. Mae angen rheoleiddio statudol. Dydy'r Llywodraeth hon ddim yn mynd i gyflwyno hynny, ond mae angen deddfu yn y chweched Senedd doed a ddelo. Diolch yn fawr.