Cymal 49 o Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 24 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:41, 24 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Mae'r Aelod, wrth gwrs, yn gywir i ddweud mai bwriad y Bil—mai diben y Bil, yn sicr—yw cyfyngu ar allu'r Senedd a Gweinidogion Cymru i weithredu yn unol â'r setliad datganoli. Nid oedd yn rhaid iddo fod fel hyn, ac nid oes rhaid iddo fod fel hyn o hyd. Rydym ni wedi cynnig dewis amgen i'r Bil sy'n parchu'r setliad datganoli, ond sydd hefyd yn cyflawni'r safonau uchel mewn ystod o feysydd, y gwn i ei bod yn teimlo'n angerddol iawn yn eu cylch ac yn ymgyrchydd brwd iawn drostynt. Fel y dywedais, rydym ni wedi dilyn strategaeth o gyflwyno dewisiadau adeiladol amgen, ac wedi cael cefnogaeth sylweddol yn Nhŷ'r Arglwyddi, fel rwy'n gwybod ei bod yn ymwybodol, i lawer o'r safbwyntiau hynny, o amrywiaeth o leisiau gwleidyddol a lleisiau anwleidyddol, ac o amrywiaeth o wahanol gefndiroedd. A chafwyd thema gref iawn, iawn bod angen parchu'r setliad datganoli ac os yw Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen ar y sail mai bwriad y Bil hwn yw cryfhau'r undeb, bydd yn canfod ei bod yn camgymryd, oherwydd y ffordd orau o wneud hynny yw drwy amddiffyn ac ymestyn datganoli, yn hytrach na cheisio ei sathru dan draed.