2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru ar 24 Tachwedd 2020.
2. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o gymal 49 o Fil Marchnad Fewnol y DU? OQ55917
Byddai cymal 49 o'r Bil fel y'i cyflwynwyd yn gwneud Deddf Marchnad Fewnol gyfan y DU yn ddeddfiad gwarchodedig. Dim ond pan ellir cyfiawnhau hynny y dylid defnyddio statws deddfiad gwarchodedig. Rydym ni wedi cynnig hepgor y ddarpariaeth hon; mater i Lywodraeth y DU nawr yw cyflwyno'r achos dros ei chynnwys.
Diolch, Cwnsler Cyffredinol. Pleidleisiodd y cyhoedd yng Nghymru o blaid datganoli yn 1997. Ar ôl y mandad cychwynnol hwnnw, rydym ni wedi cael 12 digwyddiad democrataidd pellach sydd wedi caniatáu i bobl Cymru gadarnhau'r farn honno—ar ffurf refferendwm pellach yn 2011, pum etholiad yn y Senedd, a chwe etholiad cyffredinol. Yn y refferenda a'r holl etholiadau cafwyd mwyafrif clir o blaid datganoli. Nawr, byddwch yn gwybod y bydd cymal 46 o Fil y farchnad fewnol yn galluogi Llywodraeth y DU i wario arian mewn meysydd datganoledig yng Nghymru. Byddai hynny'n caniatáu iddyn nhw, er enghraifft, wario arian ar gynlluniau trafnidiaeth a allai gael effaith andwyol ar feysydd sydd wedi'u datganoli, megis iechyd y cyhoedd, yr amgylchedd a chadwraeth. Fel yr ydych chi wedi bod yn ei nodi, Cwnsler Cyffredinol, mae cymal 49 o'r Bil yn atal y Senedd rhag gallu cyflwyno her gyfreithiol i gynlluniau o'r fath, er eu bod yn effeithio ar feysydd datganoledig. Rydym ni wedi gwybod o'r dechrau bod Boris Johnson yn elyniaethus i ddatganoli, sydd bellach wedi'i gadarnhau o lygad y ffynnon. Mae'r cipio grym hwn yn cadarnhau'r elyniaeth honno. Felly, a ydych chi'n cytuno â mi nad oes gan Lywodraeth Dorïaidd y DU fandad democrataidd i basio darpariaethau o'r fath, yn enwedig o gofio bod y mwyafrif o Aelodau Seneddol Cymru wedi pleidleisio yn eu herbyn a bod y Senedd hon yn gwrthwynebu?
Credaf fod yr Aelod yn gywir i dynnu sylw at effaith dynodi'r Bil yn ddeddfiad gwarchodedig, gan ei fod yn atal y Senedd hon rhag addasu effeithiau'r Ddeddf. Ond mae'n cyfeirio hefyd at ddarpariaeth lawer ehangach yn y Bil, sydd yr un mor anghyfiawn—os gallaf ei fynegi yn y termau hynny—sef y darpariaethau sy'n rhoi pwerau o feysydd datganoledig i Weinidogion Llywodraeth y DU i wario yng Nghymru. Nawr, clywsom y cyfraniadau yn Nhŷ'r Cyffredin yn ystod y dadleuon ar y Bil yn gynharach yn y flwyddyn ac roedd hi'n amlwg o'r cyfraniadau hynny mai'r hyn rwy'n credu sy'n ysgogi rhai o'r penderfyniadau hyn yw nad yw Llywodraeth y DU yn fodlon ar y blaenoriaethau y mae Llywodraeth Cymru, a etholwyd gan bobl Cymru, wedi eu gosod drosti eu hun yn rhan o fandad democrataidd. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig ar hyn o bryd yw i Lywodraeth y DU gydnabod nad yw hi'n rhy hwyr iddi newid ei meddwl o ran y ddarpariaeth hon. Byddem yn sicr yn ei gwahodd i wneud hynny. Pan ydym yn trafod hyn gyda Llywodraeth y DU, yn amlwg, caiff ei ddisgrifio fel cyfle i gydweithio. Wel, os yw hynny'n wir, mae'n ymddangos i mi ei fod yn gyfle i weithio o amgylch Llywodraeth Cymru, yn hytrach na gweithio gyda Llywodraeth Cymru. Ond, fel y dywedais, nid yw hi'n rhy hwyr i Lywodraeth y DU newid ei safbwynt yn hynny o beth a chydnabod y setliad datganoli democrataidd.
Rwy'n pryderu'n benodol am hyn, oherwydd, ar ôl cael gwybod bod gadael yr UE yn ymwneud ag adfer rheolaeth, nid wyf yn credu bod llawer ohonom ni wedi sylweddoli bod hynny'n golygu Llywodraeth y DU yn adfachu rheolaeth a'r arian sy'n mynd gyda hynny er mwyn i'r canol allu targedu seddi at eu dibenion gwleidyddol eu hunain. Ac o roi anallu Llywodraeth y DU dros brofi, olrhain a diogelu a'u hawydd i roi arian i'w ffrindiau o'r neilltu, holl ddiben y llywodraeth ddatganoledig yw bod Llywodraeth Cymru yn deall y gwahaniaeth rhwng Caerdydd, Caernarfon a Chaersws, yn ogystal â nodweddion unigryw cymunedau fel fy un i, fel Adamsdown a rhannau o Bentwyn, sy'n ardaloedd o amddifadedd sylweddol, ac y mae eu hanghenion yn gwbl wahanol i anghenion Cyncoed neu Ben-y-lan, dyweder, er nad ydyn nhw ond ychydig filltiroedd ar wahân. Felly, beth ellir ei wneud i atal Llywodraeth Dorïaidd y DU rhag herwgipio'r arian hwn at eu dibenion eu hunain, yn hytrach na mynd i'r afael â thlodi ac amddifadedd yn ein cymunedau?
Mae'r Aelod, wrth gwrs, yn gywir i ddweud mai bwriad y Bil—mai diben y Bil, yn sicr—yw cyfyngu ar allu'r Senedd a Gweinidogion Cymru i weithredu yn unol â'r setliad datganoli. Nid oedd yn rhaid iddo fod fel hyn, ac nid oes rhaid iddo fod fel hyn o hyd. Rydym ni wedi cynnig dewis amgen i'r Bil sy'n parchu'r setliad datganoli, ond sydd hefyd yn cyflawni'r safonau uchel mewn ystod o feysydd, y gwn i ei bod yn teimlo'n angerddol iawn yn eu cylch ac yn ymgyrchydd brwd iawn drostynt. Fel y dywedais, rydym ni wedi dilyn strategaeth o gyflwyno dewisiadau adeiladol amgen, ac wedi cael cefnogaeth sylweddol yn Nhŷ'r Arglwyddi, fel rwy'n gwybod ei bod yn ymwybodol, i lawer o'r safbwyntiau hynny, o amrywiaeth o leisiau gwleidyddol a lleisiau anwleidyddol, ac o amrywiaeth o wahanol gefndiroedd. A chafwyd thema gref iawn, iawn bod angen parchu'r setliad datganoli ac os yw Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen ar y sail mai bwriad y Bil hwn yw cryfhau'r undeb, bydd yn canfod ei bod yn camgymryd, oherwydd y ffordd orau o wneud hynny yw drwy amddiffyn ac ymestyn datganoli, yn hytrach na cheisio ei sathru dan draed.