Cymal 49 o Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 24 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 2:40, 24 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n pryderu'n benodol am hyn, oherwydd, ar ôl cael gwybod bod gadael yr UE yn ymwneud ag adfer rheolaeth, nid wyf yn credu bod llawer ohonom ni wedi sylweddoli bod hynny'n golygu Llywodraeth y DU yn adfachu rheolaeth a'r arian sy'n mynd gyda hynny er mwyn i'r canol allu targedu seddi at eu dibenion gwleidyddol eu hunain. Ac o roi anallu Llywodraeth y DU dros brofi, olrhain a diogelu a'u hawydd i roi arian i'w ffrindiau o'r neilltu, holl ddiben y llywodraeth ddatganoledig yw bod Llywodraeth Cymru yn deall y gwahaniaeth rhwng Caerdydd, Caernarfon a Chaersws, yn ogystal â nodweddion unigryw cymunedau fel fy un i, fel Adamsdown a rhannau o Bentwyn, sy'n ardaloedd o amddifadedd sylweddol, ac y mae eu hanghenion yn gwbl wahanol i anghenion Cyncoed neu Ben-y-lan, dyweder, er nad ydyn nhw ond ychydig filltiroedd ar wahân. Felly, beth ellir ei wneud i atal Llywodraeth Dorïaidd y DU rhag herwgipio'r arian hwn at eu dibenion eu hunain, yn hytrach na mynd i'r afael â thlodi ac amddifadedd yn ein cymunedau?