Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 24 Tachwedd 2020.
Diolch, Cwnsler Cyffredinol. Pleidleisiodd y cyhoedd yng Nghymru o blaid datganoli yn 1997. Ar ôl y mandad cychwynnol hwnnw, rydym ni wedi cael 12 digwyddiad democrataidd pellach sydd wedi caniatáu i bobl Cymru gadarnhau'r farn honno—ar ffurf refferendwm pellach yn 2011, pum etholiad yn y Senedd, a chwe etholiad cyffredinol. Yn y refferenda a'r holl etholiadau cafwyd mwyafrif clir o blaid datganoli. Nawr, byddwch yn gwybod y bydd cymal 46 o Fil y farchnad fewnol yn galluogi Llywodraeth y DU i wario arian mewn meysydd datganoledig yng Nghymru. Byddai hynny'n caniatáu iddyn nhw, er enghraifft, wario arian ar gynlluniau trafnidiaeth a allai gael effaith andwyol ar feysydd sydd wedi'u datganoli, megis iechyd y cyhoedd, yr amgylchedd a chadwraeth. Fel yr ydych chi wedi bod yn ei nodi, Cwnsler Cyffredinol, mae cymal 49 o'r Bil yn atal y Senedd rhag gallu cyflwyno her gyfreithiol i gynlluniau o'r fath, er eu bod yn effeithio ar feysydd datganoledig. Rydym ni wedi gwybod o'r dechrau bod Boris Johnson yn elyniaethus i ddatganoli, sydd bellach wedi'i gadarnhau o lygad y ffynnon. Mae'r cipio grym hwn yn cadarnhau'r elyniaeth honno. Felly, a ydych chi'n cytuno â mi nad oes gan Lywodraeth Dorïaidd y DU fandad democrataidd i basio darpariaethau o'r fath, yn enwedig o gofio bod y mwyafrif o Aelodau Seneddol Cymru wedi pleidleisio yn eu herbyn a bod y Senedd hon yn gwrthwynebu?