Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 24 Tachwedd 2020.
Credaf fod yr Aelod yn gywir i dynnu sylw at effaith dynodi'r Bil yn ddeddfiad gwarchodedig, gan ei fod yn atal y Senedd hon rhag addasu effeithiau'r Ddeddf. Ond mae'n cyfeirio hefyd at ddarpariaeth lawer ehangach yn y Bil, sydd yr un mor anghyfiawn—os gallaf ei fynegi yn y termau hynny—sef y darpariaethau sy'n rhoi pwerau o feysydd datganoledig i Weinidogion Llywodraeth y DU i wario yng Nghymru. Nawr, clywsom y cyfraniadau yn Nhŷ'r Cyffredin yn ystod y dadleuon ar y Bil yn gynharach yn y flwyddyn ac roedd hi'n amlwg o'r cyfraniadau hynny mai'r hyn rwy'n credu sy'n ysgogi rhai o'r penderfyniadau hyn yw nad yw Llywodraeth y DU yn fodlon ar y blaenoriaethau y mae Llywodraeth Cymru, a etholwyd gan bobl Cymru, wedi eu gosod drosti eu hun yn rhan o fandad democrataidd. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig ar hyn o bryd yw i Lywodraeth y DU gydnabod nad yw hi'n rhy hwyr iddi newid ei meddwl o ran y ddarpariaeth hon. Byddem yn sicr yn ei gwahodd i wneud hynny. Pan ydym yn trafod hyn gyda Llywodraeth y DU, yn amlwg, caiff ei ddisgrifio fel cyfle i gydweithio. Wel, os yw hynny'n wir, mae'n ymddangos i mi ei fod yn gyfle i weithio o amgylch Llywodraeth Cymru, yn hytrach na gweithio gyda Llywodraeth Cymru. Ond, fel y dywedais, nid yw hi'n rhy hwyr i Lywodraeth y DU newid ei safbwynt yn hynny o beth a chydnabod y setliad datganoli democrataidd.