– Senedd Cymru am 2:55 pm ar 24 Tachwedd 2020.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny—Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Mae gennyf dri newid i fusnes yr wythnos hon. Bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad heddiw ar yr wybodaeth ddiweddaraf am drefniadau mesurau arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. O ganlyniad, mae'r datganiad am dasglu'r Cymoedd wedi'i ohirio tan 8 Rhagfyr. Yn olaf, mae'r ddadl ar Reoliadau Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 1) 2020 wedi'i symud i'r eitem olaf ar yr agenda heddiw. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog priodol yn y Llywodraeth ynghylch cyfyngiadau ar ganu yn eglwysi Cymru a mannau addoli eraill? Yn amlwg, mae gennym ni dymor y Nadolig ar ein gwarthaf. Mae llawer o bobl yn mwynhau mynd i wasanaethau carolau a chymryd rhan mewn gwasanaethau addoli yr adeg benodol hon o'r flwyddyn, ac mae Llywodraeth y DU wedi gwneud cyhoeddiad yn ddiweddar am egwyddorion ar gyfer canu mwy diogel, gan gynnwys mewn addoldai, a fydd yn galluogi pobl i ddod at ei gilydd, ar yr amod eu bod yn ymwybodol o reolau cadw pellter cymdeithasol ac yn cymryd rhagofalon eraill, er mwyn ymgynnull ar gyfer addoliad o'r fath. Hoffwn gael y cyfle i bobl yng Nghymru fwynhau'r un breintiau, a tybed a allem ni gael datganiad am hyn cyn gynted ag y bo modd. Diolch.
Diolch i Darren Millar am godi'r mater hwn y prynhawn yma, ac wrth gwrs rydym wrthi'n gyson yn adolygu pob agwedd ar ein rheoliadau a'n canllawiau. Rwyf yn deall yr heriau y mae'r cyfyngiadau ar ganu mewn addoldai yn eu gosod ar eglwysi a mannau ffydd eraill yn ein cymunedau, a deallaf y siom y mae llawer o bobl yn ei theimlo wrth beidio â chael canu ar hyn o bryd. Gofynnaf i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg—i arddel ei theitl newydd—ystyried y sylwadau yr ydych chi wedi'u gwneud, ac yn amlwg, wrth inni barhau i adolygu'r pethau hyn, fe gaiff eich sylwadau eu hystyried yn briodol.
Hoffwn dynnu sylw at rwystredigaethau busnesau'r Rhondda sydd wedi'u gadael heb unrhyw gymorth ariannol ers dechrau'r pandemig. Gwyddom am fusnesau ledled Cymru a esgeuluswyd ar ôl gwneud cais i'r gronfa cadernid economaidd. Mae busnes newydd yn y Rhondda yn dweud wrthyf nad ydyn nhw wedi cael unrhyw gefnogaeth, er iddyn nhw golli'r mwyafrif o'u derbyniadau gwerthiant. Fe wnaethon nhw gais am grant dewisol cyfyngiadau symud a weinyddir drwy'r awdurdod lleol, a chafwyd ymateb yn dweud y bu eu cais i gronfa arall, nad oedden nhw wedi gwneud cais iddi, yn aflwyddiannus. Mae gyrwyr tacsis yn grŵp arall nad oes darparu ar ei gyfer, a threfnwyd gwrthdystiad gan undeb llafur Unite heddiw yng nghanol dinas Caerdydd, yn galw am gefnogaeth, ac rwy'n cefnogi'r ymgyrch hon. Nawr, rwy'n cydnabod ein bod yn byw mewn cyfnod na welwyd ei debyg o'r blaen a bod cynlluniau wedi'u llunio'n gyflym, ond oni ddysgir gwersi o'r hyn sydd wedi mynd o'i le hyd yn hyn, yna caiff camgymeriadau eu hailadrodd a bydd cymorth wedi'i dargedu yn parhau i esgeuluso'r busnesau sydd ei angen. Felly, a allwn ni gael datganiad gan y Llywodraeth yn amlinellu sut y gallwch chi adolygu'r system grantiau fel y gellir helpu'r achosion hynny yr wyf wedi eu crybwyll heddiw ac y gallwn ni sicrhau nad yw busnesau a phobl yn methu hawlio cymorth ariannol angenrheidiol pan fo gwir angen hynny arnyn nhw nawr?
Rwy'n ddiolchgar, unwaith eto, i Leanne Wood am godi'r mater hwn y prynhawn yma, ac rwy'n gwybod y bydd hi'n codi'r achos penodol cyntaf hwnnw gyda'r cyngor yn Rhondda Cynon Taf er mwyn sefydlu beth sydd wedi digwydd gyda'r cais grant penodol hwnnw. Mae'n wir, wrth gwrs, mai gan Gymru o hyd y mae'r pecyn cymorth mwyaf hael i fusnesau yn unrhyw le yn y DU, ac mae trydydd cam y gronfa cadernid economaidd eisoes wedi gweld dros 35,000 o fusnesau'n cael cynnig dros £106 miliwn hyd yma, ac, yn ogystal, mae dros £20 miliwn wedi cyrraedd busnesau twristiaeth, lletygarwch a manwerthu sydd â gwerth manwerthu o rhwng £12,000 a £50,000, ar ffurf y cyllid brys hwnnw. Felly, mae busnesau yn bendant yn cael y cyllid yna, er yn anochel ni fyddwn yn gallu cefnogi pob busnes unigol yng Nghymru. Ond rydym yn awyddus iawn i ddysgu o brofiadau trydydd cam y gronfa cadernid economaidd wrth i ni ddatblygu ein cefnogaeth i fusnesau yn y dyfodol.
Ac rwyf yr un mor bryderus ynghylch gyrwyr tacsis yn benodol. Credaf fod elfen cyfiawnder cymdeithasol yn y fan yma. Cefais drafodaeth dda gyda'r Athro Ogbonna, sydd wedi bod yn gwneud rhywfaint o waith i Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut y mae'r coronafeirws wedi effeithio'n wael ar bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn arbennig. Ac mae gyrwyr tacsis yn gymwys i wneud cais am yr elfen ddewisol honno o'r gronfa cadernid economaidd, ac rwy'n awyddus iawn i ni gyfleu'r neges honno i yrwyr tacsi. Ond rwy'n gwybod y bu Ken Skates hefyd yn trafod materion penodol sy'n effeithio ar yrwyr tacsis ac eraill, gydag Unite ac eraill yr effeithir arnyn nhw.
Os caf i, fe hoffwn i ofyn i'r Llywodraeth am ddatganiad am argaeledd gwasanaethau argyfwng, gan gynnwys rhaglenni cymorth ariannol, drwy gydol y Nadolig a chyfnod y flwyddyn newydd.
Llywydd, rydym ni i gyd, ar bob ochr i'r Siambr, yn ymwybodol o'r ffordd y mae pobl wedi dioddef eleni, a gwyddom hefyd fod llawer o deuluoedd yn wynebu argyfwng gwirioneddol yr adeg hon o'r flwyddyn. Mae gennym ni ddadl am y Nadolig a'r angen i bobl ddod at ei gilydd a mwynhau cyfnod yr ŵyl, ond weithiau, rwy'n credu, rydym yn anghofio, i lawer o deuluoedd, y byddant yn ofni'r Nadolig ac na fyddant yn edrych ymlaen at gyfnod y gwyliau oherwydd y pwysau ariannol y maen nhw yn ei hwynebu fel teulu. A gwyddom fod grwpiau o bobl, neu wirfoddolwyr a chymunedau yn dod at ei gilydd i gefnogi a chynnal teuluoedd yn ystod y cyfnod hwn, fel y buont yn ei wneud drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf yn fy etholaeth i. Ond mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru, rwy'n teimlo, yn gwneud datganiad gwirioneddol ynglŷn â sut y byddant yn ceisio cefnogi gwasanaethau argyfwng drwy'r cyfnod hwn.
Hoffwn ofyn hefyd am ddadl ar y gronfa ffyniant gyffredin. Deallwn o'r papurau Sul y bydd Llywodraeth y DU yn gwneud datganiad ar hyn yfory. Hyd y gwn i, ni fu ymgynghori ar hyn, ac mae'n ymddangos—unwaith eto drwy ddarllen adroddiadau mewn papurau newydd—fod Llywodraeth y DU yn bwriadu peidio â dysgu gwersi cyllid Ewropeaidd, ond ailadrodd rhai o'r camgymeriadau a wnaethpwyd. Pan oeddwn yn Weinidog rhaglenni ariannu Ewropeaidd, arweiniais adolygiad o sut y gwnaethom ni ddyrannu ffrydiau ariannu bron i ddegawd yn ôl, ac fe wnaethom ni ddysgu llawer o wersi bryd hynny, y mae pob un ohonyn nhw yn cael eu dadwneud yn awr gan Lywodraeth sy'n benderfynol o chwarae gwleidyddiaeth gyda dyfodol ein gwlad. Gobeithio y gallwn ni gael dadl frys ar y mater hwn cyn toriad y Nadolig er mwyn sicrhau y gall y lle hwn drafod y materion hyn a chyflwyno ei farn ei hun.
Diolch i Alun Davies am roi'r cyfle i mi fynegi diolch Llywodraeth Cymru i'r unigolion a'r gwirfoddolwyr hynny sydd wedi gweithio mor galed drwy gydol pandemig y coronafeirws i gynnig y math hwnnw o gymorth argyfwng i deuluoedd ac unigolion sydd wirioneddol yn ei chael hi'n anodd o ganlyniad i'r argyfwng ac o ganlyniad i 10 mlynedd o gyni.
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid sylweddol i'r Gronfa Gynghori Sengl, ac mae gan y gronfa honno record benodol a thrawiadol, rwy'n credu, o ran sicrhau bod teuluoedd ac unigolion yn hawlio'r budd-daliadau y mae ganddynt yr hawl iddynt—miliynau o bunnoedd yn ôl i bocedi pobl sy'n haeddu hynny yng Nghymru, a hynny'n gwbl briodol. Felly, rwy'n credu y bu hynny yn llwyddiannus iawn. Ac, yn rhan o'r ymateb i'r pandemig, rydym ni hefyd wedi rhoi £10 miliwn yn fwy o gefnogaeth i'r gronfa cymorth dewisol, ac eto, mae hynny'n gyfle pwysig iawn i bobl sy'n ei chael hi'n anodd iawn ac sydd mewn sefyllfa enbyd, i allu cael gafael ar gyllid yn gyflym iawn. Felly, rydym yn falch iawn o'r ffordd y caiff y gronfa honno ei gweithredu, ac wrth gwrs, byddwn yn annog Aelodau i gyfeirio unrhyw etholwyr y mae angen y cymorth hwnnw arnyn nhw at y gronfa honno.
Rwyf yr un mor bryderus ag Alun Davies am y gronfa ffyniant gyffredin. Mae ymgysylltiad Llywodraeth y DU wedi bod yn gwbl druenus—ni fu unrhyw ymgynghori, mewn gwirionedd—ar y mater penodol hwn. Nid ydym yn gwybod eto i ba raddau y byddwn yn gwybod unrhyw beth defnyddiol yfory yn yr adolygiad o wariant, ond fy mwriad, yn gynnar ar ôl cyhoeddi'r adolygiad o wariant, yw gallu darparu datganiad cynnar—yn y lle cyntaf, datganiad ysgrifenedig—i gyd-Aelodau gyda'n hymatebion cychwynnol, ac yna, yn amlwg, byddwn yn dod o hyd i'r cyfle priodol i ddarparu mwy o wybodaeth am unrhyw newyddion a allai fod ar gael neu beidio ynglŷn â'r gronfa ffyniant gyffredin.
Rwy'n galw am ddatganiad brys ar gefnogaeth i fusnesau gwely a brecwast bach. Pan ofynnais i chi am ddatganiad ar hyn chwe wythnos yn ôl, dywedais fod Llywodraeth Cymru unwaith eto wedi'u heithrio rhag cymorth ariannol i'w helpu i oroesi'r pandemig, y tro hwn wedi eu gwahardd o drydedd rownd y gronfa cadernid economaidd. Fe'u barnwyd hefyd yn anghymwys mewn camau blaenorol ac fe wrthodwyd grantiau busnesau bach iddyn nhw, yn wahanol i'w cymheiriaid yn Lloegr a'r Alban. Mewn ymateb, fe ddywedsoch chi y dylen nhw siarad â chynghorwyr Busnes Cymru i weld a allant eu cyfeirio at fathau eraill o gymorth. Ar ôl rhoi cynnig ar hyn, maen nhw wedi dweud wrthyf mai dim ond benthyciadau oedd ar gael, a byddai'r rhain yn eu gwthio i ddyled na ellir ei rheoli.
Ers hynny maen nhw wedi dweud wrthyf nad ydyn nhw ychwaith yn gymwys i gael eich grant dewisol cyfyngiadau symud ac yn gofyn a oedd Llywodraeth Cymru yn mynd i'w helpu cyn i'r gaeaf hwn gyrraedd, gan ddweud, 'Ni all ein sector oroesi heb gymorth ychwanegol'. Felly, mae angen datganiad gennych chi, yn manylu ar y gefnogaeth y byddwch yn ei rhoi iddyn nhw nawr, neu'n esbonio pam ar y ddaear eich bod wedi cefnu ar y sector allweddol hwn a'i gefnogaeth i'n heconomïau lleol.
Wel, byddwn i'n ddiolchgar iawn pe byddai Mark Isherwood yn anfon rhagor o fanylion ataf am y rhesymau pam nad oedd y perchnogion gwely a brecwast y mae'n cyfeirio atyn nhw yn gymwys i elwa ar y gronfa ddewisol. Mae'n dweud ei fod wedi gwneud hynny, ond nid oes dim wedi fy nghyrraedd eto. Felly, byddwn yn awyddus i ddeall y rhesymau am hynny, oherwydd rydym ni, fel yr wyf wedi sôn mewn ymateb i Leanne Wood, yn ceisio archwilio'r hyn y gallwn ni ei ddysgu o'r cam 3 presennol hwn o ran ein pecyn cymorth wrth inni symud ymlaen ar gyfer busnes. Felly, rwy'n awyddus i ddeall pam nad oedden nhw'n gallu cael gafael ar gyllid drwy'r gronfa ddewisol, sy'n fwriadol yn hyblyg ac yn eang iawn er mwyn diwallu anghenion y busnesau hynny nad ydyn nhw eto wedi gallu cael cymorth.
Hoffwn i wybod efo pwy yn union o fewn Llywodraeth Cymru mae'r sector theatrau angen bod yn trafod ynglŷn ag ailagor mewn ffordd ddiogel? Efo neuaddau bingo, sinemâu a chasinos ac yn y blaen yn cael ailagor, mae'r rhai sydd yn gweithio mewn theatrau, a'r rhai ohonom ni sydd yn hoffi mynychu theatrau, angen gwybod pryd gallan nhw ailagor yn ddiogel. Y broblem ydy nad ydyn nhw ddim yn gwybod efo pwy yn union o fewn Llywodraeth Cymru maen nhw angen bod yn trafod. Mae'n debyg eu bod nhw mewn trafodaethau sy'n cael eu cynnal gan yr uned digwyddiadau mawr, ond nid dyna'r lle priodol ar gyfer y drafodaeth achos rydych chi'n medru sôn am ddigwyddiadau bychain iawn yn gallu digwydd o fewn theatrau. Felly, a fedrwch chi roi eglurder: efo pwy yn union maen nhw angen bod yn trafod?
Wel, yng ngoleuni'r cyd-destun iechyd cyhoeddus ehangach, mae'n ofynnol i theatrau a neuaddau cyngerdd, fel y dywed Siân Gwenllian, aros ar gau i'r cyhoedd. Ac, wrth gwrs, maen nhw, fodd bynnag, yn rhan annatod o'n dull o brofi digwyddiadau, na fyddan nhw, yn anffodus, bellach yn gallu ailddechrau tan fis Chwefror ar y cynharaf. Felly, mis Chwefror fydd hi, ar y cynharaf, o ran pryd y byddwn ni'n cloriannu'r profion hynny. Rydym ni wedi dechrau ailagor mewn ffordd gyfyngedig. Felly, rydym ni wedi bod yn ystyried caniatáu cynnal ymarferion a pherfformiadau ar-lein, er enghraifft, ac mae ein cronfa adfer diwylliannol gwerth £63 miliwn yno i gefnogi theatrau a neuaddau cyngerdd yn y cyfamser.
O ran gyda phwy y dylen nhw sgwrsio ymhellach, Eluned Morgan neu Dafydd Elis-Thomas fyddai'r person priodol i gael y trafodaethau hynny.
Mae gennyf ddau gais byr, Trefnydd: yn gyntaf, a gawn ni amser yn y Siambr i drafod adroddiad blynyddol y cynghorwyr cenedlaethol ar drais a cham-drin domestig, os gwelwch yn dda? Yfory yw'r Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Dileu Trais yn erbyn Menywod a Phlant, a'r llynedd, bu marwolaethau 1,300 o fenywod, a phump o'r rheini yng Nghymru. Fel arfer, byddwn yn gofyn i Aelodau gefnogi cronfa'r Rhuban Gwyn. Felly, a gaf i fanteisio ar y cyfle hwn i ofyn i gyd-Aelodau ystyried cefnogi eu prosiectau lleol yn eu hetholaethau? Oherwydd mae modd iddyn nhw achub bywydau yn enwedig nawr pan nad yw aros gartref, i lawer o fenywod, yn golygu aros yn ddiogel.
Ac yn ail, byddwn yn falch o gael yr wybodaeth ddiweddaraf gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru am y Ganolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd yng Nghymru. Dyma gyfle gwych i Bowys a chwm Tawe uchaf sydd wedi'i gyflwyno gan Lywodraeth Cymru. Byddai'n dda iawn cael rhywfaint o eglurder ynghylch y sefyllfa sydd ohoni, yn enwedig gan fod yr Aelod Seneddol Ceidwadol dros Frycheiniog a Sir Faesyfed wedi creu dryswch drwy honni'n anghywir mai Llywodraeth Cymru sydd i fod i roi sêl ei bendith, ond fy nealltwriaeth i yw mai'r rheswm dros yr oedi yw nad yw Llywodraeth y DU wedi gwneud penderfyniad rhwng safle Powys a'r safle Siemens yn Scunthorpe sy'n cystadlu am y ganolfan.
Llywydd, a gaf i fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Joyce Watson am y gwaith anhygoel y mae'n ei wneud, flwyddyn ar ôl blwyddyn, o ran ymgyrch y Rhuban Gwyn ac o ran bod yn llais i fenywod a merched sy'n dioddef trais neu sydd mewn perygl o ddioddef trais? Rwy'n credu ei bod hi'n ysbrydoliaeth i bob un ohonom ni, ac rwy'n ddiolchgar iawn i Joyce am yr wylnos a drefnodd ddoe. Roedd yr wylnos ar-lein, ond ddim yn llai grymus oherwydd hynny, a hefyd y digwyddiad y bûm yn rhan ohono yn y bore, a oedd yn canolbwyntio'n benodol ar fenywod a merched sy'n wynebu trais domestig mewn cymunedau gwledig, nad yw eu lleisiau bob amser yn cael eu clywed ac sy'n aml yn ei chael hi'n anoddach estyn allan am y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Felly, roeddwn yn credu bod hwnnw'n ddigwyddiad hynod o rymus.
Bydd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn cyhoeddi datganiad yfory sy'n sôn am gyhoeddi cynllun y cynghorwyr cenedlaethol, ac mae eu blaenoriaethau dros y flwyddyn nesaf yn cynnwys sefydlu dull iechyd cyhoeddus o ymdrin â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol; a hefyd gweithio gyda'r grŵp sy'n arwain ar gam-drin ar sail anrhydedd fel dau o'r pethau y byddant yn canolbwyntio arnynt dros y 12 mis nesaf.
O ran y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd, Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, a ddatblygodd y cynigion arloesol ar gyfer y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd ar ôl gweld fod angen am gyfleuster o'r fath, ac rydym ni wedi dangos yr arweiniad yr oedd ei angen i'w ddatblygu i'r cam yma. Mae'n fenter a luniwyd yn gadarn iawn yma yng Nghymru, gan greu'r cyfleuster newydd ar gyfer holl ddiwydiant rheilffyrdd y DU, ac rydym yn bwriadu iddo fod yn atyniad ar gyfer swyddi, sgiliau a thwf yn yr ardal. Mae'n wir ein bod, ddechrau mis Gorffennaf, wedi cyflwyno achos busnes i Lywodraeth y DU yn amlinellu'r camau nesaf i wireddu'r ganolfan honno, ac rydym yn aros am gymeradwyaeth ffurfiol gan Lywodraeth y DU i'r achos busnes, ac, yn amlwg, gobeithiwn gael cyhoeddiad cadarnhaol am hynny yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant yfory.
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog addysg yn egluro safbwynt Llywodraeth Cymru ar gadw plant mewn ysgolion gymaint â phosibl hyd at ddiwedd y tymor hwn? Roedd yn galonogol clywed y Prif Weinidog yn rhannu fy mhryderon ynghylch grwpiau blwyddyn mewn rhai ysgolion mewn rhai awdurdodau y gellid dadlau eu bod gartref yn ddiangen oherwydd nad oedden nhw'n defnyddio'r system profi ac olrhain yn iawn. Tybed sut—o fewn y datganiad hwnnw, pe gellid ei ymgorffori—y mae'r Llywodraeth hon yn bwriadu gweithio gyda'n hysgolion a'n awdurdodau lleol i sicrhau bod cysondeb ledled Cymru yn ymagwedd ein hysgolion tuag at y coronafeirws.
Hefyd, soniodd y Prif Weinidog am brofion llif ochrol, pe gellid ymgorffori hynny hefyd yn y datganiad, yr amserlenni, y symiau, y math hwnnw o beth. Ac yn olaf, Llywydd, hefyd, rwyf wedi bod yn clywed y gallai rhai ysgolion yn y de-ddwyrain fod yn cau wythnos yn gynnar yn nhymor y Nadolig, felly tybed a all y Llywodraeth roi rhywfaint o eglurder ar hynny, oherwydd, o'r ddealltwriaeth sydd gennyf, roedd ysgolion am gau wythnos yn gynnar oherwydd byddai hynny'n golygu cyfnod ynysu o bythefnos ar gyfer Noswyl Nadolig, yn amlwg. Felly, tybed a allai roi rhywfaint o eglurder ynglŷn â hynny a beth yw safbwynt gwirioneddol y Llywodraeth, o ystyried mai blaenoriaeth y Llywodraeth yw cadw ein plant yn yr ysgol gymaint ag sy'n bosibl. Diolch.
Diolch i Laura Anne Jones am godi'r mater pwysig yna. Mae gan y Gweinidog Addysg gwestiynau yn y Siambr yfory, felly gallai hynny fod yn gyfle i ystyried rhywfaint o hyn yn fanylach, ond, ochr yn ochr â hynny, gofynnaf iddi ysgrifennu atoch gyda rhywfaint o wybodaeth bellach am y cynllun ar gyfer profi plant yn yr ysgol, a hefyd y cyngor sy'n cael ei roi i ysgolion yn benodol o ran anfon plant adref i hunanynysu ac ati, a hefyd y math o feddylfryd o ran y dull o ymdrin â'r Nadolig a sicrhau ein bod yn cadw plant a'u teuluoedd mor ddiogel ag y gallwn ni.
Gweinidog, rwy'n gofyn am gynnal dadl ar frys ar ddiwedd cyfnod pontio Brexit a'r hyn y mae'n ei olygu'n benodol i borthladdoedd Cymru. Rydym bellach ar yr unfed awr ar ddeg, ac mae rhybuddion a godwyd gennyf fi ac eraill ynghylch y diffyg paratoi yng Nghaergybi yn swnio'n uwch byth. Nawr, gyda'r angen am ddatganiadau a gwiriadau'r tollau ar gludo nwyddau allan o 1 Ionawr, nid yw'r system tollau electronig newydd sydd i'w defnyddio wedi ei threialu hyd yn hyn, rwy'n deall. Bydd y Gweinidog wedi darllen am bryderon a fynegwyd heddiw gan gludwyr o Iwerddon am anhrefn yn y porthladd. Rwyf wedi siarad â Nick Bosanquet, athro polisi iechyd yn y Coleg Imperial, sy'n poeni y gallai oedi ym maes porthladdoedd hyd yn oed gynyddu'r risg o COVID.
Nawr, ddoe ymwelodd Taoiseach Iwerddon â'r seilwaith eithaf trawiadol sydd wedi'i ddatblygu ym mhorthladd Dulyn. Does dim byd yng Nghaergybi ar gyfer y cyfnod pan fydd angen y gwiriadau hynny ym mis Gorffennaf y flwyddyn nesaf ar gludo nwyddau yn dod i mewn. Mae safle yn Warrington wedi'i ddynodi ar gyfer man gwirio nwyddau a fewnforiwyd yng Nghaergybi, o leiaf dros dro. Allech chi ddim dyfeisio'r fath stori. Mae'n amlwg bod yn rhaid i'r safle hwnnw fod yng Nghaergybi neu gerllaw. Nawr, mae Llywodraeth y DU wedi gwneud traed moch go iawn yma, ond mae angen inni hefyd glywed yn union beth arall y mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio ei wneud, ac yn ceisio ei wneud i achub pethau, o gofio mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am ddatblygu canolfan ar gyfer y ffin yn ne-orllewin Cymru, a Llywodraeth y DU ar gyfer yr un sy'n ymwneud â Chaergybi. Nawr, fy ofn i, fel yr wyf wedi rhybuddio dro ar ôl tro, yw y bydd unrhyw beth sy'n effeithio ar lif rhydd masnach drwy Gaergybi yn tanseilio'r porthladdoedd ac yn tanseilio swyddi sy'n gysylltiedig â'r porthladdoedd, felly a allwn ni ddod â'r holl faterion hyn gerbron y Senedd eto, ar yr awr hwyr hon hyd yn oed, fel y gallwn ni bwysleisio beth yn union sydd yn y fantol?
Diolch i Rhun ap Iorwerth am grybwyll yr hyn sy'n bryderon difrifol a sylweddol. Gwnaf yn sicr fy mod yn siarad â Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth am eich cais am y datganiad brys hwnnw. Os na ellir gwneud hynny yn y dyfodol agos iawn, byddaf yn sicr yn gofyn iddo ysgrifennu atoch chi ynghylch y materion hynny yn y cyfamser.
Hoffwn ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar y broses gynllunio, yr amserlenni a'r ffordd o fynd ati i lunio strategaeth ailgychwyn gyfyngedig a graddol ar gyfer lleoliadau perfformiad a chelfyddydau ledled Cymru, ond i nodi bod ymchwil wyddonol a fframweithiau lliniaru gweithredu diogel hanfodol bellach ar waith ledled y DU ac yn rhyngwladol, ein bod ni yng Nghymru wedi agor ac yn gweithredu sinemâu a neuaddau bingo, y cynhelir ymarferion cerddorfa ac opera diogel ledled Cymru, ac y cyhoeddwyd pryd y bydd lleoliadau Lloegr yn ailagor a bod rhai lleoliadau, theatrau a chanolfannau celfyddydol llai bellach yn barod i wirfoddoli fel cynlluniau arbrofol i allu agor yn ddiogel nawr gyda mesurau lliniaru llym priodol tebyg ar waith. Felly, Gweinidog, mae'r lleoliadau llai hyn nid yn unig yn hanfodol i les ein cymunedau o ran ymgysylltu a chyfranogi, ond, os nad ydyn nhw yn agor yn fuan, efallai y bydd yn rhaid iddyn nhw gau, ac ni all llawer ohonyn nhw hawlio nawr o gronfa cadernid economaidd COVID-19. Felly, a all y datganiad hwn gan Lywodraeth Cymru nodi llwybr clir ymlaen i'r sector ac amlinellu'r mesurau i gefnogi ein lleoliadau celfyddydol a pherfformio fel y gallan nhw agor mewn modd cynlluniedig, cyfyngedig a diogel, fel y cynghorir yn glir gan yr adroddiad ynglŷn â cherddoriaeth fyw i ymateb Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu Llywodraeth Cymru? Diolch.
Unwaith eto, diolch i Rhianon Passmore am grybwyll y mater hwn y prynhawn yma. Rwy'n gwybod ei bod wedi cael cyfle i gyflwyno'r sylwadau cryf hynny ar ran lleoliadau llai, yn enwedig yn uniongyrchol i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg yn gynharach heddiw. Mae'n wir, yn sicr o ran y digwyddiadau prawf—ac rwy'n sylweddoli bod y rhain fwy na thebyg yn ddigwyddiadau mwy na'r rhai y mae Rhianon Passmore yn meddwl amdanyn nhw—na fydden nhw'n ailddechrau tan fis Chwefror ar y cynharaf, ond rwy'n sylweddoli ein bod fwy na thebyg yn siarad yn yr achos hwn am leoliadau llai. Byddaf yn siŵr eto o sicrhau bod y Gweinidog yn ystyried hynny ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi fel bo'n briodol.
Diolch i'r Trefnydd. Egwyl fydd nesaf nawr, er mwyn gwneud rhai o'r newidiadau sy'n angenrheidiol yn y Siambr. Felly, egwyl fer.