4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Fesurau Arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:27 pm ar 24 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:27, 24 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel y gŵyr yr Aelodau, caiff ystyriaeth ei rhoi i statws uwchgyfeirio ac ymyriad y byrddau iechyd a'r ymddiriedolaethau yng Nghymru fel rhan o'r trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd sydd gennym ni ar y cyd. Mae hyn yn golygu bod swyddogion Llywodraeth Cymru yn cyfarfod ag Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ddwywaith y flwyddyn i drafod sefyllfa gyffredinol sefydliadau GIG Cymru o ran ansawdd, perfformiad gwasanaethau a rheolaeth ariannol. Rhoddir ystyriaeth i ystod eang o wybodaeth a hysbysrwydd ar gyfer nodi unrhyw faterion i lywio eu hasesiad a'u cyngor i mi fel Gweinidog Iechyd. Mae cyfle hefyd i gynnal cyfarfodydd ychwanegol, pe byddai'r grŵp o'r farn bod angen hynny.

Yn y cyfarfod tairochrog llawn diwethaf a gynhaliwyd ym mis Medi, fe gytunwyd i gynnal cyfarfod pellach cyn diwedd y flwyddyn galendr, yn benodol ynglŷn â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Rwy'n falch o gael dweud y cynhaliwyd cyfarfod tairochrog arbennig yn gynharach y mis hwn. Y cyngor a'r argymhelliad clir i mi oedd y dylid newid statws uwchgyfeirio'r bwrdd iechyd. Rwyf wedi derbyn y cyngor hwnnw. Rwyf wedi penderfynu y bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dod allan o fesurau arbennig a hynny ar unwaith. Mae statws uwchgyfeirio'r bwrdd iechyd bellach wedi newid i ymyriad wedi'i dargedu.

Fe adolygodd y grŵp tairochrog dystiolaeth ychwanegol a gyflwynwyd gan y bwrdd iechyd a oedd yn dangos cynnydd dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys mewn meysydd a nodwyd yn wreiddiol yn bryderon a oedd yn teilyngu mesurau arbennig. Fe nododd y grŵp fod y bwrdd iechyd wedi dangos ymgysylltiad gwell gyda phartneriaid, yn enwedig yn ystod y pandemig presennol. Roedd hefyd yn cydnabod dealltwriaeth y bwrdd iechyd o'r heriau y mae'n eu hwynebu o hyd, ynghyd â'r penderfyniad a ddangoswyd gan y bwrdd a'r prif weithredwr newydd i sicrhau cynnydd pellach.

Nododd y grŵp tairochrog yr effaith andwyol yr oedd bod mewn mesurau arbennig wedi'i chael ar allu'r bwrdd iechyd i recriwtio a chadw staff, yn enwedig ar lefel uwch. Mae hyn wedi arwain at lenwi nifer o swyddi cyfarwyddwyr gweithredol dros dro ar hyn o bryd. Mae'n amlwg nad yw hyn yn fuddiol iawn i'r bwrdd iechyd wrth symud ymlaen. Roedd mesurau arbennig yn cael effaith hefyd ar allu'r bwrdd iechyd i wneud y cynnydd pellach sy'n angenrheidiol.

Mae pryderon o hyd ynghylch rhai agweddau ar berfformiad, yn enwedig mewn gwasanaethau iechyd meddwl a gallu'r bwrdd iechyd i baratoi cynllun tymor canolig y gellir ei gymeradwyo. Wrth symud ymlaen, er mwyn darparu eglurder a sicrwydd o'r pwysigrwydd angenrheidiol, fe ddefnyddir dull matrics aeddfedrwydd, sy'n debyg i'r prosesau a fu ar waith ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Ar 3 Tachwedd, fe gyhoeddais i becyn cymorth i'r bwrdd iechyd. Mae'r cymorth hwn yn gyfanswm o £82 miliwn ychwanegol y flwyddyn dros dair blynedd a hanner i gefnogi'r bwrdd iechyd wrth iddo ddechrau ar gyfnod newydd o dan ymyriad wedi'i dargedu, ac mae'n dal ati â'i waith parhaus i wireddu gwelliannau. Mae cadeirydd y bwrdd iechyd wedi ymateb eisoes gan amlinellu sut y defnyddir y cymorth hwn i wella gofal heb ei gynllunio, i feithrin gofal a drefnir mewn modd cynaliadwy, gan gynnwys orthopedeg, i sicrhau y bydd gwelliannau mewn gwasanaethau iechyd meddwl ac, wrth gwrs, er lles iechyd poblogaeth y gogledd.

Fe ddylid cofio bod ymyriad wedi'i dargedu yn parhau i fod yn lefel fwy dwys o uwchgyfeirio. Mae hyn yn gofyn am weithredu sylweddol gan y sefydliad, ac fe fydd yna lefel o oruchwyliaeth barhaus gan fy swyddogion i sy'n cyd-fynd â hyn. Er hynny, mae symud allan o fesurau arbennig heb os nac oni bai yn gam ymlaen i staff y bwrdd iechyd sydd wedi gwireddu a chynnal y cynnydd i ddod â'r mesurau arbennig i ben. Mae hwn yn gam cadarnhaol ymlaen hefyd i bob cymuned yn y gogledd sy'n cael ei gwasanaethu gan y bwrdd iechyd.

Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau ar draws y Senedd yn ymuno â mi i longyfarch staff yn y bwrdd iechyd wrth iddyn nhw symud i gam nesaf eu taith nhw o ran gwelliant.