Part of the debate – Senedd Cymru am 3:31 pm ar 24 Tachwedd 2020.
A gaf i fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch ar goedd ar ran pawb ar feinciau Ceidwadwyr Cymru i'r aelodau hynny o staff rheng flaen y GIG yn y gogledd sydd wedi bod yn gweithio mor galed, yn enwedig yn ystod y pandemig hwn?
Trueni mawr, Gweinidog, na fuoch chi mor gwrtais â briffio unrhyw Aelodau ar feinciau'r gwrthbleidiau heddiw ynglŷn â'ch penderfyniad, ac mewn gwirionedd, fe fuoch chi mor anghwrtais, hyd yn oed, â pheidio â rhannu eich datganiad nes yn union cyn ichi ei ddarllen yn gyhoeddus. Y gwir amdani yw ei bod hi'n ymddangos bod gan y cyhoeddiad heddiw fwy i'w wneud â rhagolygon y Blaid Lafur yn y gogledd yn etholiadau'r Senedd y flwyddyn nesaf nag ydyw ag unrhyw dystiolaeth o welliant gwirioneddol ar lawr gwlad yn y gogledd. Ni ellir cyfiawnhau eich penderfyniad i ddiddymu mesurau arbennig ac ni allwch dwyllo na chamarwain pobl y gogledd i feddwl bod popeth yn iawn. Nid yw eich disgrifiad chi o welliant yn debyg o gwbl i realiti profiadau cleifion ledled y rhanbarth.
Gadewch inni edrych ar y ffeithiau. Roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ei chweched flwyddyn o fesurau arbennig. Yn y cyfnod hwn, mae'r bwrdd wedi gweld newidiadau parhaus o ran ei uwch dîm arwain, gyda nifer fawr o brif weithredwyr, nifer fawr o gyfarwyddwyr cyllid, a nifer fawr o gyfarwyddwyr iechyd meddwl. Yn wir, mae'r cyfarwyddwr iechyd meddwl presennol yn gadael ei swydd ddiwedd y mis hwn, rhicyn arall ym mhostyn gwely Betsi.
Ers 2015, mae perfformiad adrannau damweiniau ac achosion brys wedi gwaethygu, mae rhestrau aros ac amseroedd aros wedi dirywio ac wedi mynd yn hwy, ac mae sefyllfa ariannol y bwrdd iechyd wedi dirywio hefyd. Mae'r ffigurau diweddar yn dangos mai gan Betsi y mae'r adrannau achosion brys sy'n perfformio waethaf o hyd yng Nghymru gyfan, gydag un o bob 10 o bobl yn aros mwy na 12 awr cyn y gellir eu rhyddhau nhw ar ôl cyrraedd yr adran damweiniau ac achosion brys, ac ni ellir rhyddhau dros hanner, bron hanner y boblogaeth sy'n cyrraedd yno o fewn pedair awr.
Fe wyddom fod gwasanaethau meddygon teulu yn parhau i fod yn fregus yn y rhanbarth, gyda mwy o bractisau a reolir yn unrhyw ardal bwrdd iechyd arall yng Nghymru. Ac, wrth gwrs, fe wyddom ni bellach fod gwasanaethau deintyddiaeth yn fregus ledled y gogledd hefyd, gydag 20,000 o gleifion wedi cael rhybudd y bydd eu gwasanaethau GIG nhw'n dod i ben ddechrau'r flwyddyn nesaf. Nid yw hwn yn fwrdd iechyd sy'n barod ar gyfer dod allan o'r trefniadau mesurau arbennig.
Roeddech chi'n cyfeirio at nifer o resymau pam aeth y bwrdd iechyd hwn i fesurau arbennig, ac roedd llywodraethu, arweinyddiaeth a goruchwyliaeth yn un ohonyn nhw. Fe wyddom fod gwendidau yno o hyd oherwydd fe gafwyd achosion diweddar o'r coronafeirws yn torri allan mewn dau o'r ysbytai yn y gogledd, ac ni ddaeth yr un ohonyn nhw i'r amlwg oherwydd sefyllfa'r bwrdd iechyd, ond oherwydd bod Aelodau lleol o'r Senedd wedi ysgrifennu i godi pryderon.
Nid yw gwasanaethau iechyd meddwl wedi dod trwy'r gwaethaf eto chwaith. Er gwaethaf addewidion o adeiladau newydd a gwych, mae'r diwylliant yn yr adrannau hynny'n parhau i fod yr un peth. Mae gennym 1,600 o gleifion a gafodd eu rhyddhau o wasanaethau yn gynharach eleni yn ddiarwybod iddyn nhw, heb i neb eu hysbysu nhw. Mae nifer y gwelyau yn parhau i fod yn broblem aruthrol. Nid yw gwasanaethau plant a'r glasoed na'r gwasanaeth iechyd meddwl byth yn ddigonol, gyda chleifion yn parhau i gael eu hanfon gannoedd o filltiroedd i ffwrdd i gael triniaethau fel cleifion mewnol. Ac mae chwarter—chwarter—yr holl achosion diogelwch iechyd meddwl yn GIG Cymru yn achosion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Nid yw hwn yn fwrdd iechyd sy'n addas i ddod allan o fesurau arbennig.
Ychydig wythnosau yn ôl, y mis diwethaf, roeddech chi'n dweud bod yna heriau mawr yn parhau yn y gogledd. Ychydig wythnosau yn ôl, roeddech chi'n dweud, ac rwy'n dyfynnu,
Yn benodol, roedd y grŵp yn dymuno cael rhywfaint o sicrwydd pellach gan y bwrdd iechyd o ran y cynnydd mewn gwasanaethau iechyd meddwl.
Dim ond ychydig wythnosau yn ôl yr oedd hyn. Nawr, ai dyma'r adferiad mwyaf gwyrthiol ers i Lasarus gael ei gyfodi o blith y meirw neu a ydych chi'n ceisio twyllo pobl gogledd Cymru i feddwl bod gwasanaethau wedi gwella, a'r gwirionedd yw nad ydyn nhw wedi gwella?
Felly, rwy'n gofyn i chi, Gweinidog, sut allwch chi gyfiawnhau eich safbwynt chi o gofio bod llawer o'r materion ar y rhestr wreiddiol honno—ac rwy'n dyfynnu un, er enghraifft: ailgysylltu â'r cyhoedd ac adennill hyder y cyhoedd. Dyna un o'r rhesymau y cafodd y bwrdd ei roi mewn mesurau arbennig. Fe allaf i ddweud wrthych chi nad oes gan y cyhoedd yn y gogledd hyder o gwbl yn eich gallu chi i wella eu gwasanaethau. Dim ond dirywiad a welwyd ganddyn nhw yno, fel y dywedais i wrthych chi nawr, o ran rhai o'r ffeithiau hynny ar lawr gwlad. Felly sut y gallwch chi ddweud eich bod wedi ymdrin â'r mater hwnnw?
Sut allwch chi ddweud, pan mae cynifer o wasanaethau meddygon teulu yn fregus, a chymaint o wasanaethau yn destun ymyriad a rheolaeth gan y bwrdd iechyd, yr ymdriniwyd â'r pryderon hyn am wasanaethau meddygon teulu a gofal sylfaenol, yn arbennig gyda'r argyfwng sydd ar y gorwel nawr ym maes gofal deintyddol hefyd? A sut ar y ddaear allwch chi ddweud yr ymdriniwyd â llywodraethu pan nad oedd y bwrdd iechyd ei hun yn gwybod beth oedd cyfradd yr heintiau a welwyd mewn ysbytai o ran COVID nes i mi dynnu eu sylw nhw at hynny? A sut ar y ddaear allwch chi ddweud bod gwasanaethau iechyd meddwl yn well pan maen nhw, a dweud y gwir, gyn waethed nawr ag yr oedden nhw nôl yn 2015?