4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Fesurau Arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:36 pm ar 24 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:36, 24 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, siomedig, ond nid anarferol efallai, yw'r ymateb afresymol a oedd i'w ddisgwyl gan Mr Millar. Mae'n anffodus ei fod yn gwrthod rhoi unrhyw glod i'r staff am y cynnydd a wnaed yn ystod y blynyddoedd diwethaf sydd wedi arwain at ddod â'r mesurau arbennig i ben. Yn benodol, rwy'n atgoffa'r Aelodau, yn y Siambr hon ond yn allanol hefyd, nid yn unig o'r cynnydd a enillwyd yn sgil y broses dairochrog, y byddaf i'n dod yn ôl ati, ond yn benodol yr ymateb i'r pandemig, sef argyfwng gofal iechyd a ddaw unwaith mewn can mlynedd. Rwyf i o'r farn fod Betsi Cadwaladr a'i staff yn haeddu clod enfawr am yr ymateb. Rhyfedd iawn fyddai dweud y cafwyd ymateb o'r radd flaenaf i'r pandemig ac eto mae'n rhaid i'r sefydliad aros mewn mesurau arbennig, oherwydd byddai hynny'n cyd-fynd â safbwynt Mr Millar.

O ran sail y penderfyniad i ddiddymu mesurau arbennig ar gyfer y sefydliad hwn, fe gyfeiriais i'n amlwg iawn ac yn eglur iawn at hyn yn y datganiad, yn union fel y gwnaethom ni o'r blaen wrth gyfeirio at ddiweddariadau ynglŷn â mesurau arbennig, am y cyngor o'r broses gynghori wrthrychol dairochrog. Mae prif weithredwr GIG Cymru, ynghyd â swyddogion Llywodraeth Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Archwilio Cymru, yn rhoi cyngor imi yn rhinwedd fy swydd fel Gweinidog. Eu cyngor amlwg nhw oedd nad yw hwn bellach yn sefydliad sy'n teilyngu mesurau arbennig. Ac fe ddylwn i ddweud nad yw prif weithredwr GIG Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru nac Archwilio Cymru yn gwneud dewisiadau o ran eu cyngor nhw i mi ar sail gwleidyddiaeth y pleidiau. Mae'r awgrym gan Mr Millar i'r gwrthwyneb yn sen ar eu cywirdeb nhw ac mae'n fater y dylai ei dynnu'n ôl a'i ailystyried.

Y cyngor tairochrog yw'r cyngor; ond fi sy'n gwneud y penderfyniad. Nid yw ymyrryd wedi'i dargedu yn gyfystyr â dihangfa lwyr; mae angen mwy o gynnydd, fel yr eglurais i. Rwy'n credu y bydd pobl resymol yn cydnabod hynny, ond fe fyddan nhw hefyd yn cydnabod mai rhywbeth cadarnhaol o ran gofal iechyd yn y gogledd yw hyn, sy'n glod gwirioneddol i staff y bwrdd iechyd, ac rwy'n edrych ymlaen at weld cynnydd pellach yn digwydd.