Part of the debate – Senedd Cymru am 6:37 pm ar 25 Tachwedd 2020.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i chi am hynny. Yn amlwg, daw'r ddadl hon ar adeg pan ydym newydd orffen dadl yn sôn am bwnc tebyg iawn, ond nid wyf yn ymddiheuro am hynny. Clywais y Gweinidog ac rwy'n siŵr y byddaf yn clywed rhagor o'r un atebion eto, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig inni fynd i'r afael â'r mater penodol hwn.
Mae canser wedi cyffwrdd â phob un ohonom mewn rhyw ffordd, naill ai ni ein hunain neu rywun annwyl. Nid yw'n syndod pan ystyriwch fod un o bob dau ohonom yn debygol o ddatblygu canser ar ryw adeg yn ein bywydau. Bob blwyddyn mae tua 19,300 o bobl yn cael diagnosis o ganser yng Nghymru, ac yn anffodus mae tua 8,800 o farwolaethau canser. Dyma'r lladdwr mwyaf yng Nghymru, ac mae'n parhau i gael effaith aruthrol ar lawer o bobl. Fodd bynnag—. Mae'n ddrwg gennyf. Pan siaradais â'r Gweinidog—. Ymddiheuriadau, Ddirprwy Lywydd. Mae rheswm dros optimistiaeth, fodd bynnag, oherwydd mae cyfraddau goroesi canser wedi dyblu ers y 1970au, fel bod oddeutu ein hanner heddiw yn goroesi ein canser am 10 mlynedd neu fwy, ond gwyddom y gallwn, a bod rhaid inni, wneud yn well. Mae astudiaethau rhyngwladol fel y Bartneriaeth Ryngwladol Meincnodi Canser yn parhau i weld Cymru'n tangyflawni o gymharu â gwledydd tebyg. Pe gallem ddal i fyny â'r gwledydd gorau, gellid achub llawer mwy o fywydau.
Pan siaradais ddiwethaf yn y Senedd am ganser, roedd y byd yn wahanol iawn. Roeddwn yno'n siarad yn y cnawd, yn hytrach na thrwy dechnoleg; gallwn eistedd yn agos at ffrindiau a chydweithwyr i gael pryd o fwyd. Nawr, mewn byd ôl-bandemig, rydym wedi gweld llawer o newidiadau i'n bywydau bob dydd o gymharu â'r hyn y byddem wedi bod yn ei wneud fisoedd yn unig yn ôl; bellach nid yw'n gyfrifol i wneud hynny. Fodd bynnag, nid yw canser wedi mynd i guddio yn ystod y pandemig hwn. Yn union fel y feirws, mae'n parhau i fod yn fygythiad i'n hiechyd. Yn yr un modd, nid yw'r dulliau a ddefnyddiwn i drin canser wedi newid, ac nid yw pwysigrwydd diagnosis cynnar wedi newid ychwaith. Mae effaith COVID-19 wedi bod yn wirioneddol ddifrifol ar ganser miloedd o bobl, ac efallai nad ydynt hyd yn oed yn gwybod hynny. Fis diwethaf, rhyddhaodd Cymorth Canser Macmillan adroddiad llwm iawn ar effaith COVID-19 ar ofal canser. Tynnodd sylw at y ffaith bod 31 y cant yn llai o gleifion nag arfer wedi mynd ar y llwybr canser sengl pan oedd y pandemig ar ei anterth. Dengys data gan Cancer Research UK fod tua 18,200 yn llai o atgyfeiriadau brys gan feddygon teulu yng Nghymru rhwng mis Mawrth a mis Awst 2020 ar gyfer achosion lle ceir amheuaeth o ganser, gyda'r gostyngiad mwyaf mewn atgyfeiriadau brys yn digwydd ym mis Ebrill—ar anterth y cyfyngiadau symud—pan oedd nifer yr atgyfeiriadau 63 y cant yn is nag ym mis Ebrill 2019.
Mae'r amseroedd aros diweddaraf ar gyfer canser a ryddhawyd ar 19 Tachwedd yn dangos bod tua 7,100 o bobl a oedd wedi cael diagnosis o ganser wedi dechrau triniaeth rhwng mis Ebrill a mis Medi yng Nghymru—ffigur sydd tua 1,500 yn llai o bobl nag yn yr un cyfnod y flwyddyn flaenorol. Nododd yr un data mai dim ond 74 y cant o gleifion ag atgyfeiriad brys yn sgil amheuaeth o ganser a gafodd brawf a dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod ym mis Medi, a'r targed oedd 95 y cant. Mae hyn yn cymharu â'r 80 y cant o gleifion ag atgyfeiriad brys lle ceir amheuaeth o ganser a ddechreuodd y driniaeth ar yr un adeg y llynedd. A chanser yr ysgyfaint oedd yr arafaf i wella, o ran nifer yr atgyfeiriadau brys lle roedd amheuaeth o ganser—gostyngiad o bron 72 y cant ym mis Ebrill, a oedd yn dal i fod yn ostyngiad o 26 y cant ym mis Awst. Rhwng mis Mawrth a mis Awst, golygodd oedi rhaglenni sgrinio am ganser ledled y DU na wahoddwyd 3 miliwn o bobl i un o'r tair rhaglen sgrinio am ganser—y coluddyn, y fron, serfigol. Mae modelu gan Cancer Research UK yn awgrymu y byddai 55,600 o bobl fel arfer yn cael eu gwahodd bob mis i gymryd rhan yn un o'r tair rhaglen sgrinio ar gyfer canser yng Nghymru, gan arwain at ddiagnosis o 80 o ganserau fan lleiaf, ynghyd â newidiadau ychwanegol cyn-ganseraidd a gaiff eu canfod a'u trin. Nawr, dywedodd 40 y cant o ymatebwyr o Gymru fod profion canser y byddent fel arfer yn eu disgwyl wedi cael eu gohirio, eu canslo neu eu newid. Dywedodd tua 27 y cant fod eu triniaeth ar gyfer canser wedi'i heffeithio.
Fel Aelodau eraill, rwyf wedi clywed llawer o brofiadau pobl yr effeithiwyd ar eu profion a'u triniaethau canser mewn rhyw ffordd gan COVID-19. Mae wedi achosi cryn bryder ac yn fwyaf gofidus, mae wedi achosi pryderon y gallai fod wedi effeithio'n negyddol ar y gobaith o oroesi canser. Yn ystod ton gyntaf y pandemig, cynyddodd nifer y bobl a oedd yn aros am endosgopi diagnostig o tua 11,900 erbyn diwedd mis Mawrth i tua 15,700 ddiwedd mis Gorffennaf. Fel y gwyddom i gyd, mae diagnosis cynnar yn hanfodol i wella cyfraddau goroesi canser yng Nghymru. Er enghraifft, pan wneir diagnosis o ganser y coluddyn cam 1, mae dros naw o bob 10 claf yn goroesi, ond mae'n gostwng i lai nag un o bob 10 os gwneir diagnosis ohono yng ngham 4. Amcangyfrifir y bydd hyn yn arwain at ôl-groniad o tua 2,900 o bobl heb gael diagnosis dros y cyfnod hwn o chwe mis. Mae'n hanfodol ein bod yn cynyddu capasiti diagnostig canser i o leiaf y lefel cyn y pandemig, rhag i ormod o gleifion fynd ar y llwybr ond gorfod aros am ddiagnosteg, a fydd—[Anghlywadwy.]