– Senedd Cymru am 6:37 pm ar 25 Tachwedd 2020.
Symudwn yn awr at y ddadl fer. Galwaf ar David Rees i siarad am y pwnc y mae wedi'i ddewis. David.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i chi am hynny. Yn amlwg, daw'r ddadl hon ar adeg pan ydym newydd orffen dadl yn sôn am bwnc tebyg iawn, ond nid wyf yn ymddiheuro am hynny. Clywais y Gweinidog ac rwy'n siŵr y byddaf yn clywed rhagor o'r un atebion eto, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig inni fynd i'r afael â'r mater penodol hwn.
Mae canser wedi cyffwrdd â phob un ohonom mewn rhyw ffordd, naill ai ni ein hunain neu rywun annwyl. Nid yw'n syndod pan ystyriwch fod un o bob dau ohonom yn debygol o ddatblygu canser ar ryw adeg yn ein bywydau. Bob blwyddyn mae tua 19,300 o bobl yn cael diagnosis o ganser yng Nghymru, ac yn anffodus mae tua 8,800 o farwolaethau canser. Dyma'r lladdwr mwyaf yng Nghymru, ac mae'n parhau i gael effaith aruthrol ar lawer o bobl. Fodd bynnag—. Mae'n ddrwg gennyf. Pan siaradais â'r Gweinidog—. Ymddiheuriadau, Ddirprwy Lywydd. Mae rheswm dros optimistiaeth, fodd bynnag, oherwydd mae cyfraddau goroesi canser wedi dyblu ers y 1970au, fel bod oddeutu ein hanner heddiw yn goroesi ein canser am 10 mlynedd neu fwy, ond gwyddom y gallwn, a bod rhaid inni, wneud yn well. Mae astudiaethau rhyngwladol fel y Bartneriaeth Ryngwladol Meincnodi Canser yn parhau i weld Cymru'n tangyflawni o gymharu â gwledydd tebyg. Pe gallem ddal i fyny â'r gwledydd gorau, gellid achub llawer mwy o fywydau.
Pan siaradais ddiwethaf yn y Senedd am ganser, roedd y byd yn wahanol iawn. Roeddwn yno'n siarad yn y cnawd, yn hytrach na thrwy dechnoleg; gallwn eistedd yn agos at ffrindiau a chydweithwyr i gael pryd o fwyd. Nawr, mewn byd ôl-bandemig, rydym wedi gweld llawer o newidiadau i'n bywydau bob dydd o gymharu â'r hyn y byddem wedi bod yn ei wneud fisoedd yn unig yn ôl; bellach nid yw'n gyfrifol i wneud hynny. Fodd bynnag, nid yw canser wedi mynd i guddio yn ystod y pandemig hwn. Yn union fel y feirws, mae'n parhau i fod yn fygythiad i'n hiechyd. Yn yr un modd, nid yw'r dulliau a ddefnyddiwn i drin canser wedi newid, ac nid yw pwysigrwydd diagnosis cynnar wedi newid ychwaith. Mae effaith COVID-19 wedi bod yn wirioneddol ddifrifol ar ganser miloedd o bobl, ac efallai nad ydynt hyd yn oed yn gwybod hynny. Fis diwethaf, rhyddhaodd Cymorth Canser Macmillan adroddiad llwm iawn ar effaith COVID-19 ar ofal canser. Tynnodd sylw at y ffaith bod 31 y cant yn llai o gleifion nag arfer wedi mynd ar y llwybr canser sengl pan oedd y pandemig ar ei anterth. Dengys data gan Cancer Research UK fod tua 18,200 yn llai o atgyfeiriadau brys gan feddygon teulu yng Nghymru rhwng mis Mawrth a mis Awst 2020 ar gyfer achosion lle ceir amheuaeth o ganser, gyda'r gostyngiad mwyaf mewn atgyfeiriadau brys yn digwydd ym mis Ebrill—ar anterth y cyfyngiadau symud—pan oedd nifer yr atgyfeiriadau 63 y cant yn is nag ym mis Ebrill 2019.
Mae'r amseroedd aros diweddaraf ar gyfer canser a ryddhawyd ar 19 Tachwedd yn dangos bod tua 7,100 o bobl a oedd wedi cael diagnosis o ganser wedi dechrau triniaeth rhwng mis Ebrill a mis Medi yng Nghymru—ffigur sydd tua 1,500 yn llai o bobl nag yn yr un cyfnod y flwyddyn flaenorol. Nododd yr un data mai dim ond 74 y cant o gleifion ag atgyfeiriad brys yn sgil amheuaeth o ganser a gafodd brawf a dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod ym mis Medi, a'r targed oedd 95 y cant. Mae hyn yn cymharu â'r 80 y cant o gleifion ag atgyfeiriad brys lle ceir amheuaeth o ganser a ddechreuodd y driniaeth ar yr un adeg y llynedd. A chanser yr ysgyfaint oedd yr arafaf i wella, o ran nifer yr atgyfeiriadau brys lle roedd amheuaeth o ganser—gostyngiad o bron 72 y cant ym mis Ebrill, a oedd yn dal i fod yn ostyngiad o 26 y cant ym mis Awst. Rhwng mis Mawrth a mis Awst, golygodd oedi rhaglenni sgrinio am ganser ledled y DU na wahoddwyd 3 miliwn o bobl i un o'r tair rhaglen sgrinio am ganser—y coluddyn, y fron, serfigol. Mae modelu gan Cancer Research UK yn awgrymu y byddai 55,600 o bobl fel arfer yn cael eu gwahodd bob mis i gymryd rhan yn un o'r tair rhaglen sgrinio ar gyfer canser yng Nghymru, gan arwain at ddiagnosis o 80 o ganserau fan lleiaf, ynghyd â newidiadau ychwanegol cyn-ganseraidd a gaiff eu canfod a'u trin. Nawr, dywedodd 40 y cant o ymatebwyr o Gymru fod profion canser y byddent fel arfer yn eu disgwyl wedi cael eu gohirio, eu canslo neu eu newid. Dywedodd tua 27 y cant fod eu triniaeth ar gyfer canser wedi'i heffeithio.
Fel Aelodau eraill, rwyf wedi clywed llawer o brofiadau pobl yr effeithiwyd ar eu profion a'u triniaethau canser mewn rhyw ffordd gan COVID-19. Mae wedi achosi cryn bryder ac yn fwyaf gofidus, mae wedi achosi pryderon y gallai fod wedi effeithio'n negyddol ar y gobaith o oroesi canser. Yn ystod ton gyntaf y pandemig, cynyddodd nifer y bobl a oedd yn aros am endosgopi diagnostig o tua 11,900 erbyn diwedd mis Mawrth i tua 15,700 ddiwedd mis Gorffennaf. Fel y gwyddom i gyd, mae diagnosis cynnar yn hanfodol i wella cyfraddau goroesi canser yng Nghymru. Er enghraifft, pan wneir diagnosis o ganser y coluddyn cam 1, mae dros naw o bob 10 claf yn goroesi, ond mae'n gostwng i lai nag un o bob 10 os gwneir diagnosis ohono yng ngham 4. Amcangyfrifir y bydd hyn yn arwain at ôl-groniad o tua 2,900 o bobl heb gael diagnosis dros y cyfnod hwn o chwe mis. Mae'n hanfodol ein bod yn cynyddu capasiti diagnostig canser i o leiaf y lefel cyn y pandemig, rhag i ormod o gleifion fynd ar y llwybr ond gorfod aros am ddiagnosteg, a fydd—[Anghlywadwy.]
Rwy'n credu ein bod yn cael problemau gyda'ch cysylltiad.
[Anghlywadwy.]—yn dal i fod â'r symptomau hynny, a allai fod yn ganser. Pan fyddant yn mynd i weld rhywun, y pryder yw os yw'n ganser, y byddai eu diagnosis yn canfod canser ar gam diweddarach, pan fydd llai o allu i'w drin. Bydd lleihau'r ôl-groniad hwn cyn gynted ac mor ddiogel â phosibl yn ychwanegu mwy o straen ar y gwasanaethau diagnostig. Mae angen capasiti ychwanegol a llenwi bylchau yn y gweithlu ar frys.
Ddirprwy Lywydd, yr wythnos diwethaf cyhoeddodd y grŵp trawsbleidiol ar ganser yma yn y Senedd adroddiad ar amseroedd aros canser a gychwynnwyd ganddo cyn y pandemig. Yn dilyn uchafbwynt cyntaf y pandemig, ehangwyd cylch gorchwyl cychwynnol yr ymchwiliad i gynnwys dealltwriaeth o effaith y pandemig ar ddiagnosis a thriniaeth canser. I ddechrau, ceisiodd yr adroddiad asesu'r llwybr canser sengl, ac mae'n dal yn bwysig cadw golwg ar y llwybr canser sengl fel mesur sy'n gynhenid gadarnhaol. Byddai ailddechrau adrodd ar y llwybr canser sengl yn gyfle i ailgychwyn ac aildrefnu, yn enwedig ar gyfer y sgyrsiau ynglŷn â lle gellir a lle dylid gwneud gwelliannau ar gyfer llwybrau diagnostig.
Rwy'n croesawu'n fawr y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf gan y Gweinidog ar ailgyflwyno'r llwybr canser sengl, ynghyd â ffigur targed y mae'n rhaid i fyrddau iechyd ei gyflawni. Mae hwn yn amlwg yn gam cadarnhaol i'r cyfeiriad cywir. Fodd bynnag, rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i dderbyn holl argymhellion yr adroddiad, ac yn arbennig i flaenoriaethu gofal a thriniaeth canser drwy ddarparu adnoddau ychwanegol i ymdopi â'r ôl-groniad. Mae'r adroddiad yn galw am gyhoeddi cynllun adfer canser COVID-19, yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi darparu gwasanaethau canser yn well, ac yn benodol, sut y byddai gwasanaethau diagnostig yn cael eu cefnogi i leihau'r ôl-groniad canser sy'n bodoli. Gallai hyn ei gwneud yn ofynnol i safleoedd gwyrdd sy'n ddiogel rhag COVID hybu capasiti a chynnal gwasanaethau, er fy mod yn cydnabod y sylwadau a wnaeth y Gweinidog yn y ddadl flaenorol nad oes sicrwydd o safleoedd rhydd o COVID oherwydd natur y feirws hwn.
Mae angen profion COVID digonol ar gyfer staff a chleifion er mwyn cynnal safleoedd o'r fath a'u cadw mor rhydd o COVID â phosibl, a rhoi hyder i gleifion. Ochr yn ochr â hyn, mae angen ymgyrch gyfathrebu eang ar y cyfryngau torfol i annog pobl sydd â symptomau sy'n peri gofid i geisio cymorth gan feddyg teulu. Ac unwaith eto, gwn fod y Gweinidog wedi dweud y byddant yn gwneud hynny ac maent wedi cytuno ar hynny. Mae ei angen i annog pobl sydd â'r symptomau i barhau i geisio cymorth gan eu meddygon teulu, yn ogystal â rhoi sicrwydd y gellir gweld a thrin pobl yn ddiogel. Mae cynllun adfer ar ôl COVID ar gyfer gwasanaethau canser yn hanfodol er mwyn mynd i'r afael â'r sefyllfa yn y tymor byr, ond mae hefyd yn hanfodol fod hyn yn gweithredu fel rhagflaenydd i'r newid tymor hwy sydd ei angen ar gyfer diagnosteg canser.
Bwriadwyd i'r cynllun cyflawni ar gyfer canser ar gyfer 2016 ddod i ben eleni, ac er bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bwriad i ddatblygu olynydd i'r cynllun hwn, ni chafwyd rhagor o fanylion eto. Nawr, rwy'n sylweddoli bod y pandemig wedi cael blaenoriaeth gan swyddogion a bod yn rhaid i gynllun cyflawni newydd ystyried yn awr sut y byddai'n adeiladu ar y cynllun cyflawni presennol a'r cynllun adfer. Fodd bynnag, mae arnom angen strategaeth ganser newydd gynhwysfawr ar frys, gyda'r llwybr canser sengl yn elfen ganolog, strategaeth a fydd yn hanfodol i yrru'r agenda drawsnewid yn ei blaen ar adeg pan fo'r Gweinidog wedi cydnabod ein bod yn annhebygol o weld amseroedd aros ar gyfer llawer o wasanaethau'n dychwelyd i lefelau cyn COVID am flynyddoedd lawer.
Nid wyf yn cuddio rhag y ffaith bod yr her sy'n wynebu gwasanaethau canser yn aruthrol. Roedd hi'n amlwg fod angen gwella diagnosis, triniaeth ac achosion canser cyn i'r pandemig daro. Ni fydd neb yn anghytuno bod COVID-19 wedi ein gwthio'n ôl ymhellach. Felly, mae angen i strategaeth ganser newydd fod yn feiddgar ac yn uchelgeisiol wrth fynd i'r afael â'r heriau hyn. Weinidog, fel fy nghyd-Aelodau i gyd, rwyf am sicrhau bod y GIG a byrddau iechyd lleol yn cael eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru i ymateb i'r heriau hyn. Mae'r coronafeirws wedi gafael yn y wlad ac wedi rhoi pwysau ar ein gweithwyr iechyd rheng flaen, ond yn anffodus, mae clefydau fel canser yn parhau i ymddangos drwy amrywiaeth eang o symptomau.
Rhaid i bawb ohonom gofio bod angen cymorth emosiynol ar gleifion sy'n dioddef o ganser neu sy'n wynebu'r posibilrwydd o ddiagnosis o ganser hefyd, yn ogystal â thriniaeth ar gyfer y clefyd. Mae angen inni gynorthwyo ein byrddau iechyd lleol i gymryd camau i sicrhau bod yr egwyddorion personol hyn yn parhau i fod wrth wraidd gofal canser. Mae angen clustnodi arian ar gyfer yr holl ofal canser, yr agendâu iechyd corfforol a meddyliol, a sicrhau nad yw'n cael ei gyffwrdd wrth ystyried llif gwaith a threfniadau staffio.
Mae canfod canser yn gynnar yn golygu trin canser yn gynnar. I bawb ledled Cymru, peidiwch ag anwybyddu eich symptomau; peidiwch ag ofni mynd i weld eich meddyg teulu; peidiwch ag oedi cyn ceisio cymorth. Hoffwn eich atgoffa bod llawer o adnoddau, ar-lein drwy wefan y GIG ac eraill, i'ch helpu yn eich penderfyniad i fynd at y meddyg. Ni fyddwch yn gwastraffu amser y GIG drwy gael diagnosis o'ch symptomau. Mae'r GIG yno i'ch cefnogi drwy ddiagnosis, hyd at driniaeth. Os nad yw eich symptomau newydd yn diflannu, mae angen i chi weld eich meddyg, a nodi unrhyw newidiadau sydd wedi digwydd neu gwestiynau a allai fod gennych ar bapur fel eich bod yn deall y sefyllfa'n glir.
Rwyf am gloi fy nghyfraniad heddiw drwy fynegi fy niolch parhaus i'r staff ar draws y GIG yng Nghymru y mae eu hymdrechion aruthrol wedi anelu i gynnal gwasanaethau canser gymaint â phosibl yn yr amgylchiadau anoddaf y maent wedi'u hwynebu erioed mae'n debyg. Mae'r wyth mis diwethaf wedi bod yn annhebyg i unrhyw gyfnod arall iddynt hwy, a heb eu gwaith caled, eu hymroddiad i'w cleifion a'u hymrwymiad parhaus i sicrhau canlyniadau cadarnhaol ar gyfer y cleifion hynny, byddai'r effaith andwyol ar gleifion canser wedi bod hyd yn oed yn waeth. Felly, gyda'n gilydd, gadewch inni sicrhau bod ein GIG yn cael ei gefnogi; gadewch inni sicrhau bod ein gwasanaethau cymorth canser yn cael eu cefnogi; a gadewch inni sicrhau ein bod yn cynorthwyo ein gilydd i gael y diagnosis cynnar hwnnw. Diolch.
Diolch. A gaf fi alw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl? Vaughan Gething.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i David Rees am gyflwyno'r ddadl fer hon.
Rwy'n croesawu gwaith y grŵp trawsbleidiol a'i adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Mae'r adroddiad yn nodi'r heriau sy'n wynebu gofal a chanlyniadau canser yng nghyd-destun y pandemig. Rwy'n falch o weld bod llawer yn gyffredin rhwng argymhellion yr adroddiad a'n bwriadau ein hunain ar gyfer gwasanaethau canser. Er enghraifft, yr wythnos diwethaf, gwnaethom ailddechrau adrodd ar y llwybr canser sengl, fel roedd yr adroddiad yn galw amdano ac fel y crybwyllwyd gan David Rees yn ei gyflwyniad i'r ddadl.
Mae'r ymrwymiadau a osodwyd gennym yn 2013 a 2017 yn ein cynlluniau cyflawni ar gyfer canser i wella gwasanaethau a chanlyniadau canser yn dal i sefyll heddiw. Nid ydym yn camu'n ôl o'r ymrwymiad hwnnw. Bydd ein dull newydd wedi'i gyhoeddi erbyn mis Mawrth, o ystyried effaith y pandemig. Mae cryn dipyn o gynnydd wedi'i wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a hoffwn dynnu sylw at y gwelliant cyson yn y canlyniadau. Unwaith eto, cydnabu David Rees y bu gwelliant yn y canlyniadau yma yng Nghymru. Ceir lefelau uchel iawn o brofiad cadarnhaol i gleifion. Rydym wedi cyflwyno llwybr canser sengl cyntaf y DU ac wedi gweld canolfannau diagnosteg cyflym yn datblygu. Ond mae llawer mwy i'w wneud o hyd. Mae maint her a chymhlethdod y newidiadau sydd eu hangen arnom yn sylweddol.
Mewn blynyddoedd arferol, rydym yn gwneud diagnosis ar oddeutu 19,000 o achosion newydd yng Nghymru, caiff dros 450,000 o bobl eu sgrinio, ac rydym yn archwilio dros 120,000 o atgyfeiriadau lle ceir amheuaeth o ganser. Rydym yn dibynnu ar ein darparwyr gofal sylfaenol i nodi symptomau; ein gwasanaethau radioleg, endosgopi a phatholeg i wneud diagnosis; ein timau llawfeddygol, radiotherapi a chemotherapi i drin y clefyd; a'n timau nyrsio arbenigol gofal lliniarol a phartneriaid yn y trydydd sector i gefnogi a gofalu am bobl yn ystod y cyfnod anoddaf yn eu bywydau.
Mae darparu gwasanaethau canser yn cynnwys nifer o arbenigeddau ac ymyriadau, gyda llwybrau cleifion ar draws ffiniau sefydliadol. Mae hyn yn galw am berthynas waith agos, llwybrau gofal integredig a sylw arbennig i gynnal gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae'n bwysig fod gennym ddealltwriaeth gyffredin o sut i wella gwasanaethau a chanlyniadau canser. Gwyddom fod angen inni leihau cyfraddau ysmygu a gordewdra er mwyn canfod canser yn gynharach ac ar gam lle gellir ei drin yn haws, er mwyn darparu'r ymyriadau a'r therapïau diweddaraf sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn gyson, a chefnogi pobl yn iawn ar hyd y llwybr triniaeth. Mae'r rhain yn agweddau sylfaenol ar ein dull o weithredu. Cânt eu cefnogi neu eu galluogi gan fodelau gwasanaeth sy'n newid, datblygu gweithlu cynaliadwy ac wrth gwrs, y defnydd gorau o systemau digidol a data.
Gwnaed gwaith pwysig a manwl ar yr agenda hon gan randdeiliaid ers blynyddoedd lawer yng Nghymru, ac mae llawer o gonsensws ynglŷn â'r ffordd orau ymlaen. Yr her yn awr yw manteisio ar hynny yn y blynyddoedd i ddod a gwneud y gwelliant sylweddol rydym i gyd am ei weld yn y canlyniadau. Er hynny—ac unwaith eto, mae David Rees yn cydnabod hyn a bod yn deg—nid oes dianc rhag effaith y pandemig. Mae'r prif swyddog meddygol wedi bod yn glir fod y pandemig yn achosi niwed mewn sawl ffordd. Mae mynediad at ofal iechyd arferol, gan gynnwys gofal canser yn yr achos hwn, yn un o'r ffyrdd lle mae niwed anuniongyrchol yn cael ei achosi. O'r cychwyn cyntaf, ein dull o weithredu fu ceisio diogelu cymaint o ofal canser â phosibl. Gweithiodd GIG Cymru yn eithriadol o galed i wneud hynny a darparu'r gofal brys sydd ei angen ar gynifer o bobl â phosibl. Fodd bynnag, rydym wedi gweld capasiti a chynhyrchiant mewn diagnosteg a thriniaeth canser yn lleihau'n sylweddol. Mae hyn wedi golygu bod nifer y bobl sy'n aros am driniaeth yn cynyddu ac mae'n debygol y bydd yna effaith ar ganlyniadau yn y blynyddoedd i ddod.
Ymhlith yr argymhellion yn yr adroddiad mae datblygu cynllun adfer canser ar gyfer gweddill y pandemig. Rwy'n deall yr awydd am eglurder ar lefel genedlaethol, gan nodi faint o lawdriniaethau y mae angen eu gwneud, faint fydd yn cael eu gwneud, a pha mor hir y bydd yn ei gymryd i drin y rhai sy'n aros. Serch hynny, cyn gynted ag y byddwn yn rhoi'r ffigurau hynny ar bapur, y realiti yw bod y pandemig yn newid yr hyn sy'n bosibl. Mae'r gwahaniaeth rhwng pandemig wedi'i reoli'n dda a phandemig a reolir yn wael o ran faint o bobl y mae'n bosibl eu trin yn un arwyddocaol. Mae'n amlygu lle mae rheolaeth effeithiol ar y pandemig yr un mor bwysig i ganser a chyflyrau difrifol eraill sy'n bygwth bywyd.
Rwy'n gwybod bod rhai wedi galw am glustnodi capasiti ar gyfer gofal canser, ac rwy'n deall hynny, ond fel y gwyddom i gyd, ac rwyf fi'n sicr yn deall mai Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wyf fi ac nid y Gweinidog gofal canser yn unig. Nid wyf am oruchwylio na byw mewn system iechyd lle mae'r Llywodraeth yn dweud, 'Os mai canser yw eich salwch sy'n bygwth bywyd, yna fe gewch eich trin, ond os mai'r salwch sy'n bygwth eich bywyd yw clefyd y galon neu rywbeth arall, mae llai o werth i'ch bywyd.' Dyna'r union gyfyng-gyngor moesegol a olygai ein bod wedi gwrthod yr ymdrechion blaenorol i gael gwarant canser benodol a fyddai wedi rhoi blaenoriaeth i ganser ar draul cyflyrau eraill. Ni chredaf mai dyna fyddai clinigwyr canser eu hunain am ei weld ychwaith. Felly, rwyf am fod yn glir, mae gan fyrddau iechyd gynlluniau manwl ar gyfer y gaeaf ynglŷn â sut y byddant yn cydbwyso'r anghenion sy'n cystadlu y bydd rhaid iddynt eu rheoli. Byddant yn blaenoriaethu cleifion yn ôl eu hanghenion clinigol, boed yn COVID neu'n rhywbeth heblaw COVID, canser neu rywbeth heblaw canser. Rhaid inni, ac fe fyddwn, yn parhau i edrych yn deg ac yn gyfartal i weld sut y defnyddiwn y capasiti sydd ar gael gennym i ofalu am bobl ledled Cymru.
Ymrwymodd y Llywodraeth hon, ym mis Mawrth eleni, i gael cynllun cyflawni newydd ar gyfer canser, yn ogystal â chynlluniau ar gyfer y galon a strôc, gyda darpariaeth olynol erbyn mis Rhagfyr. Nawr, yn amlwg, mae'r pandemig wedi gwneud hynny'n amhosibl. Er na fu'n bosibl datblygu dull mor fanwl ag a nodir yn ein cynllun canser presennol, rydym wedi parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i nodi ein dyheadau ar gyfer cam nesaf y gwaith o ddatblygu a gwella gwasanaethau.
Rwy'n awyddus inni ddysgu gwersi dull y cynllun cyflawni o fynd ati a chyflymder gweithredu yn enwedig. Rhaid inni barhau i esblygu ac adeiladu ar ein dull blaenorol, yn hytrach na chadw at yr un model yn union o reidrwydd. Mae'r ymrwymiad a wnaed yn 'Cymru Iachach' i fframwaith clinigol cenedlaethol ac i ddatganiadau ansawdd yn rhoi cyfleoedd newydd inni a all wthio agenda canser ymhellach ac yn gyflymach, a byddai ymgorffori dull yn yr ymrwymiadau hyn yn caniatáu i wasanaethau canser elwa o ddatblygiadau ehangach a gwella perfformiad cymharol llwybrau clefyd mewn cynlluniau ar gyfer y GIG.
Nid yw hyn yn gam yn ôl o ran dull gweithredu, ond yn hytrach, yn fy marn i, mae'n naid ymlaen yn ein huchelgais. Byddai'n cynnwys datblygiadau newydd cyffrous o amgylch y gweithlu canser a chynllunio gwasanaethau canser, i'w hategu gan ddatblygiad y system gwybodaeth canser newydd a pharhau i wreiddio'r llwybr canser sengl.
Rydym am gryfhau ein gwaith gyda gofal sylfaenol, ac yn fwy cyffredinol, ar ganfod canser yn gynharach. Mae gwaith hanfodol i'w wneud drwy ein rhaglenni endosgopi a delweddu. Rwyf am gyflwyno ein dull o gyflawni ymchwil canser, a gwireddu ein huchelgais ar gymorth cyfannol, ac mae'r rhain i gyd, wrth gwrs, yn gyson â'r argymhellion yn yr adroddiad trawsbleidiol.
Ond fe gymerodd naw mis i adnewyddu'r cynllun cyflawni canser blaenorol y tro diwethaf, ac ni allwn fforddio aros am gyfnod tebyg yn awr cyn i ni roi cyfeiriad a pharhau i wella ar yr un cyflymder. Mae'n hanfodol ein bod yn nodi'r uchelgeisiau hyn ac yn symud yn gyflym i benderfynu sut y cânt eu cyflawni. Roedd maint yr her a'n hwynebai cyn y pandemig yn ddigon sylweddol, a rhaid inni ganolbwyntio ein sylw yn awr ar yr achos dros gyflymu a ffocws ar weithredu.
Felly, unwaith eto, hoffwn ddiolch i'r rhai a weithiodd mor galed ar yr adroddiad, ac fel arfer, diolch i'r holl bobl sy'n gweithio ar draws ein system iechyd a gofal, yn ein GIG, ym maes gofal cymdeithasol a'n partneriaid yn y trydydd sector hefyd, am y cyfan y maent yn parhau i'w wneud i ddiwallu anghenion pobl y mae canser yn effeithio arnynt. Byddaf yn rhoi ystyriaeth ofalus i'r argymhellion yn yr adroddiad, ac rwy'n hapus i ysgrifennu at y grŵp trawsbleidiol i roi ymateb llawn i'w argymhellion. Diolch yn fawr am y cyfle i ymateb heno, a diolch am eich amser heno, Ddirprwy Lywydd.
Diolch yn fawr iawn, a daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.