Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 25 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 1:40, 25 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog. Gwn fod swyddogion wedi bod yn gweithio'n galed, fel y gwnaethom ddarganfod ddydd Llun, i geisio mynd i’r afael â hyn. Credaf fod hwn yn fater technegol, ond er lles enw da Llywodraeth Cymru yng nghyswllt cyfrifyddu, ac yn wir, er lles enw da’r gweinyddiaethau datganoledig eraill, os oes problem gyda'u cyfrifon hwythau hefyd, mae angen inni ymrwymo i gytundeb er mwyn sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto.

Hefyd, ac yn olaf, o gofio y bydd y £739 miliwn eleni yn ymddangos yn helaeth yng nghyfrifon y flwyddyn nesaf o ystyried nad oedd yn y cyfrifon eleni, a oes tebygolrwydd cryf y bydd cyfrifon y flwyddyn nesaf yn rhai amodol hefyd, ac a gafwyd trafodaethau gyda'r archwilydd cyffredinol ynglŷn â beth y gellid ei wneud am hyn?