Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 25 Tachwedd 2020.
Rwy'n deall na fydd hynny'n digwydd y flwyddyn nesaf, a bod llinell wedi'i thynnu, os mynnwch, o dan y bennod hon. Ond cytunaf fod angen trafodaethau da rhwng swyddogion ac Archwilio Cymru, a bod rhai wedi’u cynnal eisoes, er mwyn egluro'r sefyllfa a sicrhau bod gan y ddwy ochr yr un ddealltwriaeth o'r rheolau a'r elfennau technegol rydym yn gweithredu oddi mewn iddynt.