Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 25 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 1:37, 25 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Weinidog, fel y gwyddom, mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi rhoi barn amodol ar gyfrifon Llywodraeth Cymru am y tro cyntaf erioed, gan i wariant o £739 miliwn gael ei hepgor mewn perthynas ag ymateb Llywodraeth Cymru i’r coronafeirws. Roedd hyn yn rhywbeth a drafodwyd gyda swyddogion yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ddydd Llun. Pe bai cost y cynlluniau cymorth i fusnesau wedi'i chynnwys yng nghyfrifon Llywodraeth Cymru, byddai hyn, i bob pwrpas, wedi troi'r tanwariant o £436 miliwn yn orwariant o £303 miliwn. Mae'n amlwg fod yma nifer o faterion cyfrifyddu sydd angen eu tacluso. Pa gamau sy'n cael eu cymryd i osgoi'r math hwn o beth rhag digwydd yn y dyfodol?