Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 25 Tachwedd 2020.
Wel, fel y gŵyr Nick Ramsay, drwy'r briff y mae wedi'i gael fel rhan o waith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, anghytundeb technegol yw hwn rhwng Llywodraeth Cymru a'r archwilydd o ran sut y dylid dosbarthu cyllid ar gyfer eleni, yn yr ystyr fod y cyllid wedi’i gyhoeddi a’i ddosbarthu mewn gwahanol flynyddoedd o bosibl. Felly, mae'n anghytundeb o ran sut y dylid codio pethau. Ond mae'n rhaid i mi ddweud, nid ni yw'r unig rai yn y sefyllfa hon. Credaf fod pob un o'r pedair Llywodraeth ledled y DU yn wynebu'r un penderfyniad. Ac yn sicr, nid ydym yn difaru gwneud y cyhoeddiad cynnar hwnnw ynghylch cymorth i fusnesau, fel y gallent gynllunio a pharatoi wrth i'r cyfyngiadau symud cyntaf ddod i rym yn ôl ym mis Mawrth.