Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 25 Tachwedd 2020.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwyf newydd fod yn gwrando ar ddatganiad ariannol y Canghellor, ac yn y bôn, mae’r rhan gyntaf yn torri addewid ynglŷn â darparu arian yn lle arian yr UE, ac rydym yn cofio'r addewid, sef 'ni fydd Cymru'n colli ceiniog.’ Wel, mae'n wir—nid ydym wedi colli ceiniog, rydym wedi colli cannoedd o filiynau o bunnoedd. Yr ail ran yn amlwg yw'r sarhad ar lawer o weithwyr y sector cyhoeddus, gan fod eu cyflogau’n cael eu rhewi. Ond yn drydydd, gwnaeth Prif Weinidog y DU addewid i basio cyllid i ni ar gyfer difrod llifogydd i'r seilwaith. Weinidog, a allwch ddweud wrthym, a ydym wedi cael y cyllid a addawyd, neu a yw hwnnw’n addewid arall y mae’r Torïaid wedi’i dorri?