Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 25 Tachwedd 2020.
Mae arnaf ofn fod yn rhaid imi roi gwybod i Mick Antoniw nad ydym wedi cael yr arian a addawyd ar lawr Senedd y DU gan Brif Weinidog y DU i fynd i’r afael ag effaith y llifogydd a gawsom yn gynharach eleni yng Nghymru, llifogydd a effeithiodd arnom yn anghymesur o gymharu ag unrhyw le arall yn y DU. Cyn yr adolygiad o wariant heddiw, ysgrifennais at y Canghellor i ddweud bod hwn yn gyfle gwych iddo nodi ei ymateb i'r llifogydd yn ei gynlluniau ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith dros y blynyddoedd i ddod, a'n galluogi i gael sicrwydd o gyllid dros y blynyddoedd i ddod. Ond yn anffodus, syrthiodd hynny ar glustiau byddar. Mae gennyf gyfarfod wedi'i drefnu gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys ym mis Rhagfyr i drafod yr union fater hwn, ond credaf ei fod yn gyfle a gollwyd heddiw.