Trafnidiaeth Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 25 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:00, 25 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Rydym wedi sicrhau bod £113 miliwn yn ychwanegol, a gymeradwywyd gan y Senedd yr wythnos diwethaf yn yr ail gyllideb atodol, ar gael ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd. Rydym yn parhau i fonitro pa gyllid pellach y gallai fod ei angen ar gyfer gweithredu gwasanaethau tan ddiwedd y flwyddyn.