1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru ar 25 Tachwedd 2020.
5. Pa ddyraniadau cyllidebol ychwanegol y bydd y Gweinidog yn eu darparu i gefnogi Trafnidiaeth Cymru gan ei bod bellach wedi cymryd rheolaeth dros fasnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r gororau? OQ55928
Rydym wedi sicrhau bod £113 miliwn yn ychwanegol, a gymeradwywyd gan y Senedd yr wythnos diwethaf yn yr ail gyllideb atodol, ar gael ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd. Rydym yn parhau i fonitro pa gyllid pellach y gallai fod ei angen ar gyfer gweithredu gwasanaethau tan ddiwedd y flwyddyn.
Felly, mae Llywodraeth Cymru bellach, yn uniongyrchol, neu o leiaf drwy Trafnidiaeth Cymru, sy’n eiddo 100 y cant i Lywodraeth Cymru, yn talu arian eithaf sylweddol i sybsideiddio gwasanaethau yn Lloegr, gan gynnwys gorsafoedd nad oes mwy na llond llaw o deithwyr yn eu defnyddio o bosibl. Yn ogystal, Trafnidiaeth Cymru yw perchennog cyfleuster yr orsaf mewn gorsafoedd eithaf mawr yn Lloegr, fel Henffordd, Amwythig a Chaer. Mae Adran Drafnidiaeth y DU yn ystyried trosglwyddo’r cyfrifoldeb am y gorsafoedd hynny oddi wrth Trafnidiaeth Cymru. A yw hynny'n rhywbeth y byddai'r Gweinidog cyllid yn ei gefnogi, ac oni ddylai Llywodraeth y DU fod yn gwneud mwy yn y maes hwn nawr?
Dylai Llywodraeth y DU fod yn gwneud mwy o lawer yn y maes hwn. Rydym yn ymwybodol iawn fod Cymru, ers gormod o amser, wedi bod yng nghefn y ciw pan oedd Llywodraeth y DU yn buddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd, ac mae llawer o’r cerbydau rydym yn eu defnyddio ar hyn o bryd bron yn 40 oed. Ar sail yr ymrwymiadau sy'n hysbys ar gyfer y cyfnod rhwng 2019 a 2029, rydym yn amcangyfrif diffygion o hyd at £5.1 biliwn dros y cyfnod hwn.
Mae’n rhaid imi ddweud fy mod hyd yn oed yn fwy pryderus nag erioed bellach am gyllid rheilffyrdd yng Nghymru o ganlyniad i'r adolygiad o wariant heddiw. Bydd yr Aelod yn gwybod bod fformiwla Barnett yn gweithio ar yr hyn a elwir yn ffactorau cydweddoldeb rhwng adrannau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru mewn perthynas â phwy sy'n gyfrifol am beth, a fy nealltwriaeth i, er nad ydym wedi edrych eto ar y taenlenni yn dilyn datganiadau'r Canghellor, yw y bydd y ffactor ar gyfer yr Adran Drafnidiaeth yn cael ei dorri'n helaeth o ganlyniad i HS2. Felly, mae hynny'n peri cryn bryder. Yn anffodus, nid wyf wedi gweld y taenlenni sydd bob amser yn cael eu rhannu ar ôl i'r Canghellor wneud ei ddatganiad, gan fy mod wedi bod yma y prynhawn yma, ond cyn gynted ag y cawn gyfle ar ôl ateb cwestiynau, bydd gennym well dealltwriaeth o beth fydd y goblygiadau real i ni.
Weinidog, bydd Trafnidiaeth Cymru, wrth gwrs, yn ysgwyddo cryn dipyn o gyfrifoldebau ychwanegol dros y blynyddoedd i ddod. Nodaf fod Trafnidiaeth Cymru yn parhau i gyflogi nifer sylweddol o ymgynghorwyr allanol yn hytrach na defnyddio adnoddau mewnol Trafnidiaeth Cymru. Pan ofynnwyd iddo ynglŷn â hyn yr wythnos diwethaf, yr hyn a ddywedodd James Price, prif swyddog gweithredol Trafnidiaeth Cymru, oedd pe bai ganddynt lythyr cylch gwaith ar gyfer y tymor hwy, gallent i bob pwrpas ariannu sgiliau mewnol ychwanegol yn Trafnidiaeth Cymru, gan leihau’r angen am ymgynghorwyr allanol. Credaf mai’r awgrym yno yw y gellid arbed cryn dipyn o arian. A yw hyn yn rhywbeth rydych wedi'i drafod â'ch cyd-Aelod, Gweinidog yr economi a thrafnidiaeth?
Byddem bob amser wrth ein boddau’n rhoi sicrwydd mwy hirdymor i bartneriaid ynglŷn â’u cyllid, ac yn sicr, mae'n rhywbeth y mae'r Canghellor wedi gallu ei gynnig i ysgolion a'r GIG dros y ffin yn Lloegr, yn ogystal â phrosiectau seilwaith, ond nid yw wedi gallu cynnig yr un math o sicrwydd i ninnau. Felly, mae adolygiad o wariant un flwyddyn, yn dilyn rownd wariant un flwyddyn arall a gawsom y llynedd, yn golygu bod y sefyllfa'n anodd iawn o ran darparu unrhyw lefel o sicrwydd.
Felly, ydw, rwy'n cael trafodaethau am drefniadau cyllido’r dyfodol gyda fy nghyd-Aelod Ken Skates, ac yn amlwg, bydd yn awyddus i gael mwy o syniad ynglŷn â chyllid ar gyfer y blynyddoedd i ddod, ac rydym yn ystyried model a allai ddarparu hynny, ond rwy'n ymwybodol iawn y byddai'n rhaid cael llawer iawn o hyblygrwydd yn hwnnw i ganiatáu inni ymateb i sefyllfaoedd annisgwyl. Er enghraifft, yn gynharach eleni, bu’n rhaid inni ddefnyddio'r hyblygrwydd mwyaf posibl gyda chyllidebau Llywodraeth Cymru i ailddyrannu cyllid er mwyn ymateb i COVID-19. Felly, mae'n drafodaeth rydym yn ei chael yn y cyd-destun hwnnw, a hefyd, mae'n rhaid i mi ddweud, yng nghyd-destun dyfodol cyllido rhanbarthol, ond unwaith eto, mae llawer yn dibynnu ar ganlyniad yr adolygiad o wariant heddiw o ran faint y byddwn yn gallu ei ddyrannu ar gyfer hynny.