Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 25 Tachwedd 2020.
Yn amlwg, cyfle a gollwyd i lawer o fusnesau yn Rhondda Cynon Taf, ac yn enwedig ardal Pontypridd, oedd y gallu i gael mynediad at gyllid Llywodraeth Cymru, a gaeodd ar ôl 24 awr. Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi dweud ei fod yn obeithiol y bydd rownd gyllido newydd ar gael. Pan gaeodd y cyllid ar ôl 24 awr, dywedodd fod y pot hwnnw o arian wedi’i ddihysbyddu’n llwyr, Weinidog cyllid. A ydych wedi cael cais gan Weinidog yr economi i ryddhau arian ychwanegol i'w adran fel y gallai’r nifer o fusnesau a fethodd gael y cymorth hwn wneud cynnig yn y dyfodol i gael y gefnogaeth honno i gynnal eu busnesau?