Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 25 Tachwedd 2020.
Weinidog, bydd Trafnidiaeth Cymru, wrth gwrs, yn ysgwyddo cryn dipyn o gyfrifoldebau ychwanegol dros y blynyddoedd i ddod. Nodaf fod Trafnidiaeth Cymru yn parhau i gyflogi nifer sylweddol o ymgynghorwyr allanol yn hytrach na defnyddio adnoddau mewnol Trafnidiaeth Cymru. Pan ofynnwyd iddo ynglŷn â hyn yr wythnos diwethaf, yr hyn a ddywedodd James Price, prif swyddog gweithredol Trafnidiaeth Cymru, oedd pe bai ganddynt lythyr cylch gwaith ar gyfer y tymor hwy, gallent i bob pwrpas ariannu sgiliau mewnol ychwanegol yn Trafnidiaeth Cymru, gan leihau’r angen am ymgynghorwyr allanol. Credaf mai’r awgrym yno yw y gellid arbed cryn dipyn o arian. A yw hyn yn rhywbeth rydych wedi'i drafod â'ch cyd-Aelod, Gweinidog yr economi a thrafnidiaeth?