Buddsoddi Strategol ym Mhreseli Sir Benfro

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 25 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:11, 25 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Rydym yn buddsoddi ym mhob rhan o Gymru i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus, ein busnesau a'n cymunedau. Ymhlith y buddsoddiadau yn Sir Benfro mae £48.7 miliwn ar gyfer ysgol uwchradd newydd yn Hwlffordd a £40 miliwn ar gyfer gwelliannau i'r A40. Mae Cyngor Sir Penfro hefyd wedi derbyn dyraniad o £6.9 miliwn o gyllid targedu buddsoddiad mewn adfywio.