Buddsoddi Strategol ym Mhreseli Sir Benfro

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 25 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 2:12, 25 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Weinidog, rwy'n ddiolchgar i chi am eich ateb. Nawr, rwy'n parhau i dderbyn sylwadau gan drigolion yng Nghwm Abergwaun yn fy etholaeth ynglŷn â diogelwch ar y ffyrdd yn eu cymuned leol. Ac er gwaethaf ymrwymiadau cadarnhaol gan Weinidogion blaenorol ar y mater hwn, nid yw’r gwelliannau i'r A487 yn yr ardal benodol hon wedi’u rhoi ar waith o hyd. Weinidog, pa sicrwydd y gallwch ei roi i bobl Cwm Abergwaun y bydd gwelliannau i'r gefnffordd yn cael eu cyflawni, ac a wnewch chi ymrwymo i weithio gyda Chyngor Sir Penfro a thrigolion lleol i sicrhau ateb parhaol i'r ardal leol, fel bod y rhan hon o Gymru'n cael y buddsoddiad strategol y mae'n ei haeddu?