Y Gwyliau Treth Trafodion Tir

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 25 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 2:05, 25 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Datgelodd adroddiad yn gynharach y mis hwn gan Halifax fod cyfartaledd prisiau tai yn y DU bellach yn £250,000. Daeth hyn ar ôl adroddiad y mis diwethaf gan Nationwide a ganfu fod prisiau tai’r DU yn codi ar eu cyfradd gyflymaf ers pum mlynedd, ac mae hyn wedi’i briodoli’n rhannol i ruthr i brynu cyn diwedd y seibiant rhag talu'r dreth stamp yn Lloegr y gwanwyn nesaf, tra'n bod ni yng Nghymru wedi mabwysiadu dull llawer tecach a mwy blaengar drwy'r dreth trafodiadau tir, sy'n adlewyrchu natur ein marchnad dai yn well. Gyda hynny mewn golwg, wrth inni agosáu at ddiwedd y seibiant rhag talu'r dreth trafodiadau tir yma yng Nghymru, a all y Gweinidog gadarnhau heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn nodi ei chynlluniau i ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol drwy gydol y broses er mwyn osgoi cynnydd mewn prisiau a fyddai’n rhoi pwysau ar dai fforddiadwy yn ardaloedd gogleddol yr etholaeth rwy’n ei chynrychioli?