Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 25 Tachwedd 2020.
Diolch i Hefin David am godi'r mater penodol hwnnw. Wrth inni agosáu at ddiwedd y flwyddyn, yn amlwg, byddaf yn awyddus i glywed barn fy nghyd-Aelodau yn y Siambr, ac i ymgysylltu hefyd â rhanddeiliaid ynghylch dyfodol posibl y dreth trafodiadau tir. Yn amlwg, rwy'n awyddus i beidio â gwneud cyhoeddiadau yn rhy bell ymlaen llaw, gan fod hynny'n arwain at sefyllfaoedd lle mae pobl yn ceisio rhagbrynu a newid amseriad eu pryniant er mwyn cael y fargen orau, sy'n beth cwbl ddealladwy i'w wneud, ond os ydych yn defnyddio trethi i geisio hybu ymddygiad penodol, mae'n amlwg fod rhai problemau ynghlwm wrth hynny.
Felly, yn amlwg, rydym wedi ymrwymo'n llwyr i dryloywder mewn perthynas â'n polisi trethi, ac rwy’n awyddus i gael trafodaethau pellach gyda Hefin David ynghylch goblygiadau ac effeithiau penodol newidiadau i drethi yn ei etholaeth ef, yn enwedig yng ngogledd ardal Caerffili.