Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 25 Tachwedd 2020.
Mae rhesymau da iawn dros gael trothwyon gwahanol yng Nghymru o gymharu â Lloegr, ac maent yn ymwneud, yn fwyaf nodedig, â’r ffaith bod prisiau tai ar gyfartaledd yn wahanol iawn yma yng Nghymru. Felly, mae cyfartaledd prisiau tai yn Lloegr ar hyn o bryd yn £262,000, ac yng Nghymru, mae’n llawer llai na hynny, oddeutu £165,000. Felly, maent yn amlwg yn farchnadoedd tai gwahanol iawn, a chredaf ei bod yn gwbl briodol cael trothwyon gwahanol ar gyfer y dreth trafodiadau tir i adlewyrchu hynny.