Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 25 Tachwedd 2020.
Weinidog, rydym wedi croesawu'r toriad i’r dreth trafodiadau tir, er ei fod yn doriad dros dro ac yn llai hael na’r hyn sy'n digwydd yn Lloegr. Ein polisi ers peth amser, wrth gwrs, yw codi trothwy’r dreth trafodiadau tir i £250,000 ar gyfer prynwyr tro cyntaf yn barhaol, yn hytrach na dros dro yn unig. Pa ystyriaeth rydych wedi'i rhoi i sicrhau bod hwn yn newid parhaol yn y dreth trafodiadau tir?