Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 25 Tachwedd 2020.
Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Clywsom neithiwr fod Cymwysterau Cymru wedi cael gwared ar arholiadau uned mis Ionawr mewn TGCh, llenyddiaeth Saesneg a llenyddiaeth Gymraeg, er y bydd arholiadau eraill—nid arholiadau sy’n cael eu hailsefyll yn unig—yn dal i gael eu cynnal. Tybed a allwch ddweud pam yr ystyrir bod cau ysgolion a cholegau yn cael llai o effaith ar ddysgu'r myfyrwyr sy'n sefyll arholiadau uned lefel 2 a 3 mewn iechyd a gofal cymdeithasol na'r rheini sy'n sefyll arholiadau llenyddiaeth a TGCh.