Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 25 Tachwedd 2020.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Tybed a ydych wedi cael cyfle i ystyried sylwadau'r Athro Sally Holland, y comisiynydd plant, i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn gynharach y mis hwn, a ddywedodd fod y gwasanaethau a gâi eu darparu o'r ysgolion a oedd yn cynnig presenoldeb amser llawn neu allgymorth gweithredol i hybiau nad oeddent prin yn bodoli, yn amrywio'n enfawr, yn ystod y cyfyngiadau symud yn sicr, a bod trefniadau teithio'n chwalu'n fynych fel nad oedd y myfyrwyr hyn yn gallu cyrraedd yr ysgol na'r hyb, a bod yn rhaid i ni sicrhau nad ydym yn gweld hyn yn digwydd eto mewn unrhyw aflonyddwch yn y dyfodol, a'n bod yn rhoi pwyslais mawr ar lefelau presenoldeb mewn ysgolion arbennig, oherwydd mae angen adennill llawer o dir.