Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 25 Tachwedd 2020.
Diolch, David. Rwy'n credu ei bod yn bwysig nodi, yn wahanol i awdurdodaethau eraill, na wnaethom ddiwygio unrhyw un o'n rheoliadau na'n cyfreithiau presennol sy'n ymwneud â gwasanaethau i blant ag anghenion dysgu ychwanegol. Ond rwy'n cytuno â chi, roedd y sefyllfa ar lawr gwlad yn dameidiog o ran gwahanol lefelau o gefnogaeth. Rwy'n ymwybodol o arferion rhagorol, ysgolion na wnaeth gau ac roedd y myfyrwyr yn eu mynychu bob dydd. Oherwydd yr union ystyriaethau hynny o'r profiadau yn y cyfnod cyntaf o gyfyngiadau symud yr arhosodd pob un o'n hysgolion arbennig ar agor yn ystod y cyfnod atal byr.