Gweithredu'r Cwricwlwm Newydd

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 25 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 3:02, 25 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Weinidog, mewn tystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Fil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru), dywedodd Mind Cymru yn gywir fod y cwricwlwm newydd yn gyfle unigryw i osod iechyd meddwl ein holl bobl ifanc ynghanol eu profiad dysgu a'u profiad ysgol. O gofio bod y pandemig hefyd wedi cael cymaint o effaith ar iechyd meddwl plant, a allwch chi ddweud wrthym sut y bydd Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu iechyd meddwl a llesiant yn y cwricwlwm newydd yn awr?