2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru ar 25 Tachwedd 2020.
7. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith y pandemig ar weithredu'r cwricwlwm newydd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ55923
Diolch, Helen Mary. Eleni, fel y dywedais, mae pob un o'n hysgolion wedi wynebu heriau na welwyd eu tebyg o'r blaen, ond mae llawer yng nghanolbarth a gorllewin Cymru'n gwneud defnydd da o'r canllaw cwricwlwm newydd ac yn meddwl am eu datblygiadau cwricwlwm yn y dyfodol. Rwy'n deall bod mynediad ysgolion at gymorth a dysgu proffesiynol yn cynyddu yn y rhanbarth wrth i ni symud tuag at 2022.
Rwy'n ddiolchgar i chi am eich ateb, Weinidog. Mae athrawes ifanc o Lanelli wedi cysylltu â mi, yn fy rhanbarth, yn frwdfrydig iawn am y cwricwlwm newydd mewn gwirionedd. Yr hyn a ddywedodd oedd 'Ni allaf aros.' Ond mae'n bryderus iawn na fydd hi wedi paratoi'n briodol, ac ar yr un pryd, yn poeni y bydd pethau eraill yn mynnu ei sylw, drwy orfod gweithio gymaint yn galetach gyda disgyblion, yn enwedig pan fyddwch yn gorfod ymdopi â dysgu cyfunol a phobl ifanc sydd angen dal i fyny. Os byddwn yn dilyn yr amserlen fel y mae, mae'n poeni'n fawr na fydd yn barod i gyflwyno'r cwricwlwm newydd yn y ffordd y mae eisiau ei wneud ar yr un pryd â pharatoi a darparu cymorth i'w phobl ifanc, gyda llawer ohonynt—. Mae yna broblemau emosiynol; mae'n athrawes ddosbarth, felly mae'n ymwneud yn helaeth â'r gefnogaeth honno. Mae wedi gofyn i mi godi hyn gyda chi'n uniongyrchol, Weinidog, nid oherwydd ei bod eisiau tanseilio proses y cwricwlwm newydd mewn unrhyw ffordd, ond oherwydd ei bod mor awyddus i wneud pethau'n iawn, ac nid yw'n siŵr, fel gweithiwr proffesiynol cymharol ifanc, y bydd yn gallu gwneud y ddau beth ar unwaith. Beth hoffech chi i mi ei ddweud wrthi?
Wel, yn gyntaf oll, a gaf fi ofyn i chi ddweud 'diolch' wrthi am yr hyn y mae'n ei wneud ar hyn o bryd? Mae ein GIG a'n staff gofal cymdeithasol wedi gwneud gwaith aruthrol ar ein rhan yn ystod y pandemig hwn, ac mae pobl yn aml yn anghofio bod ein haddysgwyr a gweithwyr addysg proffesiynol a'n gweithwyr ieuenctid hefyd ar y rheng flaen. Felly, dywedwch 'diolch' wrthi gennyf fi a 'diolch' am ei brwdfrydedd a'r addewid a ddaw yn sgil y cwricwlwm newydd. Ac rwy'n credu bod ei phryder yn nodweddiadol o'r proffesiynoldeb sydd gennym o fewn y gweithlu addysg yng Nghymru. Maent eisiau gwneud pethau'n iawn ac maent yn ofni'r canlyniadau os na fyddant yn llwyddo, oherwydd nid ydynt am wneud cam â'u disgyblion. Fel y dywedais, mae cymorth ariannol ar gael ar gyfer datblygiad proffesiynol. Rydym wedi darparu canllawiau ychwanegol fis diwethaf i ysgolion ddechrau meddwl sut y gallant gynllunio eu rhaglen wrth symud ymlaen. Bydd cyngor a chymorth pellach ar gael yn y flwyddyn newydd, a byddwn yn parhau i adolygu amserlen gweithredu'r cwricwlwm. Oherwydd y peth olaf y mae unrhyw un ohonom ei eisiau, gan fy nghynnwys i, a'r gweithiwr proffesiynol ymroddedig dan sylw, yw methu cael pethau'n iawn. Dyma gyfle unwaith mewn oes, y tro cyntaf erioed i'n cenedl gael ei chwricwlwm ei hun, ac rydym i gyd, gyda'n gilydd, eisiau cael pethau'n iawn.
Weinidog, mewn tystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Fil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru), dywedodd Mind Cymru yn gywir fod y cwricwlwm newydd yn gyfle unigryw i osod iechyd meddwl ein holl bobl ifanc ynghanol eu profiad dysgu a'u profiad ysgol. O gofio bod y pandemig hefyd wedi cael cymaint o effaith ar iechyd meddwl plant, a allwch chi ddweud wrthym sut y bydd Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu iechyd meddwl a llesiant yn y cwricwlwm newydd yn awr?
Yn sicr, Paul, ac yn wir, mae'r union bwynt a wnaethoch, fod rhoi sylw i lesiant plant, eu llesiant corfforol a'u llesiant meddyliol, yn awr yn fwy nag erioed, yn flaenoriaeth, a dyna pam fod llawer o ysgolion yn awyddus i barhau i ddilyn y cwricwlwm newydd, oherwydd o dan y maes dysgu a phrofiad 'iechyd a llesiant', a'r datganiadau 'yr hyn sy'n bwysig' sy'n sail iddo, mae hynny'n rhoi llawer iawn o le inni allu cyflwyno cwricwlwm i gefnogi iechyd meddwl a llesiant plant, er mwyn deall beth sy'n effeithio ar eu hiechyd meddwl a'u llesiant, a datblygu diwylliant o ymddygiad sy'n ceisio cymorth os yw pobl yn cael trafferth ac i chwalu rhywfaint o'r stigma a'r rhwystrau sydd, yn y gorffennol efallai, wedi atal plant a phobl ifanc rhag gofyn am gymorth. Ond wrth gwrs, nid yw gwersi eu hunain yn ddigon, a dyna pam y mae gennym agwedd ysgol gyfan tuag at iechyd meddwl a llesiant, lle mae angen i iechyd meddwl a llesiant pawb yn yr amgylchedd ysgol, gan gynnwys y staff sy'n gweithio yno, fod yn ystyriaeth allweddol. Sicrhau ein bod yn cael llesiant yn iawn yw'r bloc adeiladu allweddol cyntaf i wneud i ddysgu weithio ac i gael ysgol wirioneddol lwyddiannus. Felly, mae'n ymwneud â'r cwricwlwm, ond mae hefyd yn ymwneud â'r amgylchedd sy'n amgylchynu ein plant a'n gweithlu sy'n hybu llesiant ac yn cefnogi pobl os ydynt yn dechrau cael trafferth.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Diolch.